Is-etholiad Gorllewin Casnewydd: Pleidlais dros Brexit?

Ffynhonnell y llun, Leon Neal

Disgrifiad o'r llun, Bu Paul Flynn yn cynrychioli'r Blaid Lafur yng Ngorllewin Casnewydd am dros 30 mlynedd
  • Awdur, Daniel Davies
  • Swydd, Gohebydd Gwleidyddol Â鶹ԼÅÄ Cymru

Ai bwrw pleidlais dros Brexit bydd etholwyr Gorllewin Casnewydd pan fyddan nhw'n ethol aelod seneddol newydd?

Edrychwch yn galed, ac fe welwch chi mewn ambell i ffenest neu yng ngerddi ffrynt, arwyddion sy'n profi bod isetholiad yn y ddinas hon.

Ond fe fydd rhaid edrych yn galed iawn i weld cyfeiriadau at y pwnc sy'n dominyddu gwleidyddiaeth Prydain ar hyn o bryd.

Yng Ngorllewin Casnewydd, mae Brexit yn cystadlu am sylw gyda nifer o bynciau eraill sy'n bwysig i etholwyr lleol.

Wedi treulio amser gyda rhai o'r ymgeiswyr, ces i'r teimlad eu bod nhw'n gwneud eu gorau i osgoi'r pwnc.

Does dim sôn am Brexit ar daflenni a phosteri'r ymgeisydd Torïaid, er iddo ymgyrchu dros adael yn 2016.

Cyfaddefodd ymgeisydd arall bod pobl leol wedi cael llond bol o glywed am y busnes Brexit 'ma.

Beth yw'r flaenoriaeth?

Tybiwn y clywch chi'r un peth yn bron i bob etholaeth yn wlad. Felly os nad Brexit, beth yw'r flaenoriaeth?

'Sdim dwywaith amdani, mae trafnidiaeth yn bwnc llosg, diolch i'r cynllun i adeiladu ffordd liniaru'r M4.

Os ydy Brexit yn achosi pen tost i'r Ceidwadwyr, dyma sy'n achosi pen tost y Blaid Lafur.

Ar ôl yr isetholiad, fe fydd Mark Drakeford yn penderfynu a ddylid adeiladu'r 15 milltir newydd o draffordd o amgylch y ddinas neu beidio.

Mae ymgeiswyr Llafur a'r Ceidwadwyr am fwrw 'mlaen gyda'r cynllun, er bod rhai eraill yn eu gwrthwynebu.

Disgrifiad o'r llun, Mae rhai o gymunedau Casnewydd ymysg y rhai tlotaf ym Mhrydain yn ôl Elin Maher

Dim ond un o lu o faterion sydd eu hangen eu datrys yw trafnidiaeth, meddai Elin Maher, sy'n byw yng Nghasnewydd.

Mae'n cyfeirio at ddileu'r tollau ar bontydd Hafren. Pa effaith fydd hynny'n cael ar y nifer o bobl sy'n byw a gweithio yn y ddinas, ac ar brisiau tai, tybed?

"Mae'n ddeublyg," meddai,"bydd rhai pobl sydd falle ar fin penderfynu rhoi eu tÅ· ar y farchnad yn gweld hyn fel rhywbeth positif oherwydd falle cawn nhw fwy o arian am werthu'r tÅ·.

"Ond wedyn mae gennym ni gymunedau ymysg y rhai tlotaf ym Mhrydain yng Nghasnewydd."

'Gêm beryglus'

Serch hynny, mi fydd y sylwebyddion yn 'neud eu gorau glas i ddehongli'r canlyniad fel dyfarniad ar Brexit, yn enwedig os ydy'r Ceidwadwyr yn 'neud yn wael. Ond gêm beryglus ydy hynny.

Os taw colli cefnogaeth mae'r Torïaid, er enghraifft, bydd hynny'n golygu bod pobl leol wedi diflasu â Theresa May? Neu yn anfodlon gydag Aelodau Seneddol Torïaidd sydd eisiau Brexit caled?

Ar y llaw arall, os ydy pleidlais Llafur yn crebachu, a fydd hynny'n arwydd bod Casnewydd - dinas wnaeth bleidleisio dros adael - yn anfodlon gyda'r Brexit meddal mae Jeremy Corbyn yn dyheu amdano?

Neu ai ei amheuaeth ef dros refferendwm arall fydd wedi costio'i blaid?

Cofiwch fod 'na bleidiau eraill yn gobeithio cipio cefnogaeth o'r ddwy blaid fawr, gyda Phlaid Cymru, y Democratiaid Rhyddfrydol a'r Gwyrddion yn galw am ail refferendwm, a UKIP yn ymgyrchu i adael mor fuan â phosib.

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Daran Hill bod modd i etholwyr Casnewydd yrru neges glir i'r llywodraeth yn San Steffan

Serch hynny, mae'r ymgynghorydd a lobïwr Daran Hill yn dweud bod modd i etholwyr y ddinas ddanfon neges i Downing Street.

Mae Mr Hill yn fy atgoffa fod Casnewydd wedi cael effaith mawr ar wleidyddiaeth Prydain o'r blaen - a dyw e ddim yn cyfeirio at wrthryfel y Siartwyr wnaeth ffrwydro yn y ddinas yn 1839.

Yn 1922 roedd 'na isetholiad yn y ddinas, ac fe etholwyd Ceidwadwr oedd yn gwrthwynebu'r glymblaid dan arweinyddiaeth Lloyd George. Y diwrnod nesaf, bu'n rhaid i'r Cymro Rhyddfrydol ymddiswyddo fel prif weinidog.

"Dyw e ddim yn carbon copy o bell ffordd," meddai Mr Hill, "ond mae 'na baralels ac mae 'na fodd i etholwyr Casnewydd roi signal really clir yr adeg yma fydd yn cael effaith ar y llywodraeth."

Tu hwnt i Brexit, mae 'na gymaint o ffactorau all ddylanwadu ar y canlyniad, gan gynnwys poblogrwydd personol y diweddar Paul Flynn.

Enillodd fwyafrif o 3,510 yn 2015, ond fe gododd hynny i 5,688 yn 2017 - 30 mlynedd ers iddo ennill am y tro cyntaf.

Cyn hynny, etholaeth Geidwadol oedd hon, ac mewn cyfnod gwleidyddol cyffredin fe fyddai'n sedd darged i Lafur a'r Ceidwadwyr.

Ond mae hwn yn bell o fod yn gyfnod o wleidyddiaeth gyffredin.