Â鶹ԼÅÄ

Dilyn ôl troed hen daid byd-enwog

  • Cyhoeddwyd
Poster i'r ffilm The Keeper

Wrth i ffilm gael ei ryddhau sy'n adrodd stori anhygoel Bert Trautmann - gôl-geidwad aeth o fod yn elyn yr Ail Ryfel Byd i arwr y byd pêl-droed - Cymru Fyw fu'n siarad gyda'i deulu o Gymru.

Pan gyrhaeddodd Damon adref ar ôl bod yn sesiwn hyfforddi ei dîm pêl-droed lleol am y tro cyntaf, roedd ei rieni wedi synnu.

Yn gyntaf, doedd yr hogyn 10 oed heb ddangos llawer o ddiddordeb yn y bêl gron o'r blaen, ac yn ail, cyhoeddodd ei fod wedi ei ddewis i chwarae fel gôl-geidwad. Yn ddiarwybod iddo dyna hefyd oedd safle ei hen-daid - un o'r golwyr enwocaf yn y byd ac sydd nawr yn destun ffilm.

Meddai Damon, sydd bellach yn 13 oed: "Neshi licio chwarae yn y gôl a neshi ddod adra a dweud wrth Mam a Dad, a dweud bod fi wedi cael fy newis - a dyma nhw'n sôn am hen daid fi. O'n i'n surprised. O'n i'm yn gwybod dim byd amdano fo cyn hynny. Ma'n cŵl."

Ei hen daid oedd Bert Trautmann, fydd yn cael ei gysylltu am byth gyda rownd derfynol Cwpan FA Lloegr yn 1956 pan arhosodd ar y cae i helpu ei dîm i ennill - er ei fod wedi torri ei wddf.

Disgrifiad o’r llun,

Damon, sy'n chwarae i Segontium Rovers

Ond dim ond un rhan o'i fywyd ydi hwn - roedd yn filwr Natsïaidd wnaeth droi'n arwr pêl-droed ac yn ddiweddarach yn symbol o gymodi a goddefgarwch rhwng gwledydd.

Fe gafodd ei fagu yn yr Almaen tra roedd y Natsïaid mewn grym ac ymunodd â'r Hitler Youth cyn gwirfoddoli i ymuno â'r fyddin pan oedd yn 17 oed.

Enillodd bump o fedalau am ddewrder yn yr Ail Ryfel Byd, yn cynnwys y Groes Ddur, ac roedd o'n un o dim ond 90 allan o 1000 o filwyr yn ei gatrawd a wnaeth oresgyn y rhyfel.

Ar ôl cael ei ddal a'i garcharu ym Mhrydain, a throi yn erbyn Natsïaeth, penderfynodd aros yn Lloegr ar ddiwedd y rhyfel gan weithio ar fferm, chwarae pêl-droed i'w dîm lleol - a disgyn mewn cariad a phriodi merch y rheolwr.

Roedd ei ddawn rhwng y pyst yn amlwg ac fe arwyddodd i Manchester City yn 1949.

Ffynhonnell y llun, Ron Burton
Disgrifiad o’r llun,

Gan ei fod wedi ymgartrefu yn Lloegr, chafodd Bert Trautmann erioed chwarae dros ei wlad

Ac yntau nawr yn yr adran gyntaf, cododd ei broffil - yn enwedig ar ôl i bobl wybod am ei gefndir.

Cafodd fygythiadau ar ei fywyd, ymosodiadau corfforol, beirniadaeth lem yn y wasg a phrotestiadau yn ei erbyn, yn cynnwys 20,000 o bobl tu allan i stadiwm Maine Road ar un achlysur.

Yn raddol, ac yn dilyn llythyr yn ei gefnogi gan aelod amlwg o'r gymuned Iddewig ym Manceinion, fe gafodd ei dderbyn a chwaraeodd 545 o weithiau i Manchester City rhwng 1949-1964.

Ffynhonnell y llun, ullstein bild Dtl.

Dros y degawdau wedyn bu'n ceisio gwella'r berthynas rhwng Prydain a'r Almaen, a chafodd wobr OBE am ei waith.

Dyma'r stori ryfeddol sy'n cael ei adrodd yn y ffilm The Keeper, sy'n cael ei ryddhau ddydd Gwener.

Ond i fam Damon, Samantha Wilkinson-Owen, stori ei thaid a'i nain ydi hi.

Mae hi wedi gweld y ffilm yn barod mewn ±è°ù±ð³¾¾±Ã¨°ù±ð ym Manceinion gyda'r holl actorion a pherchnogion clwb Manchester City. Doedd yna ddim carped coch, ond roedd yna un glas.

David Kross, oedd yn y ffilm The Reaper a War Horse, sy'n chwarae rôl ei thaid, a Freya Mavor, oedd yn Skins, sy'n actio Margaret, ei nain.

Disgrifiad o’r llun,

Freya Mavor a David Kross - yn y ffilm; a gyda Simon - mab hynaf Samantha - yn y ±è°ù±ð³¾¾±Ã¨°ù±ð

"Nes i rîli fwynhau'r ffilm a siarad efo'r actorion oedd yn chwarae rhan Taid a Nain," meddai.

"Dwi wedi cael fy nwyn i fyny efo pobl yn dweud 'oedd dy daid yn chwaraewr pêl-droed da' ac ati, ond pan ti'n blentyn ti'm rîli yn cymryd llawer o sylw - ond wrth weld y ffilm ti'n meddwl 'waw' am be' wnaeth o fynd drwyddi i gyrraedd fan yna a be' wnaeth o.

"Mond ar ôl gweld y ffilm dwi'n sylweddoli pa mor anhygoel oedd o."

Ar ôl iddo ymddeol o'r gêm, fe wnaeth Bert Trautmann a'i wraig Margaret symud i fyw i Benllech, lle roedd ganddyn nhw garafan ers blynyddoedd, i fagu eu meibion - yn cynnwys tad Samantha.

Ar ôl i'r briodas chwalu fe symudodd y pêl-droediwr nôl i Fanceinion, ond arhosodd Margaret a'r teulu ar Ynys Môn.

Ffynhonnell y llun, Llun Teulu
Disgrifiad o’r llun,

Samantha a'i thaid Bert Trautmann

"Roedd Taid yn dod draw i weld ni a bob tro'n cael ei yrru draw gan chauffeur, ac wedi gwisgo'n smart," meddai Samantha. "Roedd o bob tro yn cysylltu gynta i wneud yn siŵr bod pethau fel caws a sosejys yn y tŷ - pethau oedd o'n hoffi eu bwyta.

"Roedd o'n ddyn clên, bob tro'n sgwrsio efo ni - a dal efo'r acen Almaeneg. I ni mond Taid oedd o."

Yn ôl Samantha roedd gweld stori ei thaid ar y sgrin fawr yn brofiad od - yn enwedig pan oedd hi'n cael ei hatgoffa o'i mab ieuengaf.

Meddai: "Roedd rhai o'r moves oedd Taid yn 'neud yn y ffilm, nes i ddeud wrth yr hogyn hynaf oedd yna efo fi - 'waw, mae Damon yn gwneud hynna', felly mae'n rhaid bod o yn y gwaed - tydi o ddim yn poeni am ei hun, jest isho safio'r gôl."

Disgrifiad o’r llun,

David a Samantha, a'u plant Damon a Zabrina

Yn ôl ei gŵr, sy'n rheolwr ar dîm ieuenctid Segontium Rovers yng Nghaernarfon erbyn hyn, y dewrder i'r tîm ydi hynny.

Meddai David Wilkinson-Owen, wnaeth gyfarfod Bert Trautmann sawl gwaith cyn iddo farw yn 2013:

"'Neith Damon unrhywbeth i beidio gadael pêl i mewn.

"Mewn un gêm roedd clash rhyngddo fo a chwaraewr arall, a wnaeth o safio'r bêl ond wnaeth o ddisgyn i'r llawr wedi smasho ei ddannedd.

"Roedd o wedi chipio ei ddau ddant blaen a gorfod mynd at dentist, ond yn y gêm roedd yr adrenalin yn pwmpio gymaint doedd ddim ots ganddo fo, dim ond gwneud yn saff bod y bêl ddim yn mynd i mewn i gefn y net.

"'Nath o aros ymlaen tan i ni ddeud yn y diwedd 'ma rhaid i chdi ddod off °ùŵ²¹²Ô&#³æ27;.&±ç³Ü´Ç³Ù;

Ond un peth na fyddai Bert Trautmann yn hapus yn ei gylch. Manchester United ydi tîm Damon.

Hefyd o ddiddordeb:

Y gorau o Gymru ar flaenau dy fysedd

Lawrlwytha ap Â鶹ԼÅÄ Cymru Fyw