Brexit: 'Siomedig' bod May yn rhoi'r bai ar ASau

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Theresa May ei bod yn "hen bryd" i wleidyddion wneud penderfyniad

Mae AS blaenllaw ymgyrchodd o blaid Brexit wedi beirniadu Theresa May am roi'r bai ar Aelodau Seneddol am beidio cymeradwyo ei chytundeb yn NhÅ·'r Cyffredin.

Fe wnaeth David Jones ei sylwadau wedi i'r prif weinidog ddweud ei bod yn "hen bryd" i wleidyddion wneud penderfyniad.

Dywedodd Mr Jones bod y sylwadau'n siomedig iddo ef a'i gyd-Aelodau Seneddol.

Ychwanegodd arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Liz Saville Roberts ei bod yn "drist iawn" bod Mrs May yn rhoi'r bai ar ASau.

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd David Jones bod "aelodau o bob lliw, sydd o blaid aros a gadael" yn gwrthwynebu cytundeb Theresa May

Ar hyn o bryd mae'r DU i fod i adael yr Undeb Ewropeaidd ar 29 Mawrth ar ôl i Dŷ'r Cyffredin wrthod cytundeb y prif weinidog ddwywaith.

Ddydd Mercher fe wnaeth Mrs May ysgrifennu at lywydd Cyngor yr UE, Donald Tusk yn gofyn am ganiatâd i ohirio Brexit nes 30 Mehefin.

Mae Mr Tusk wedi dweud y byddai'r UE ond yn cytuno i hynny pe bai ASau yn cymeradwyo cytundeb Mrs May wythnos nesaf.

Dywedodd y prif weinidog mewn datganiad yn 10 Downing Street nos Fercher bod y cyhoedd "wedi blino ar y cecru mewnol a gemau gwleidyddol".

'Dim wedi newid'

Dywedodd Mr Jones, AS Ceidwadol Gorllewin Clwyd, bod "dim byd wedi newid heddiw".

"Os unrhyw beth mae ASau yn ddig bod y prif weinidog wedi ceisio rhoi'r bai arnyn nhw am y diffyg cytundeb," meddai.

"Y ffaith yw, bod aelodau o bob lliw, sydd o blaid aros a gadael, yn gwrthwynebu ei chytundeb."

Ychwanegodd AS Plaid Cymru, Liz Saville Robers: "Mae'r prif weinidog yn sôn am raniadau a cheisio cymodi hynny, ond pan dydy hi ddim yn barod i wrando dyw hi ddim yn syndod ein bod yn y sefyllfa yma."

Galwodd am amser i'r Senedd eistedd mewn "sesiwn barhaus nes y gall ddod i benderfyniad a gosod cynllun clir".