Â鶹ԼÅÄ

Safbwynt Brexit Mark Drakeford yn 'ddryslyd'

  • Cyhoeddwyd
Mark Drakeford
Disgrifiad o’r llun,

Y flaenoriaeth yw rhoi digon o amser i ASau gyrraedd consensws ar y cytundeb Brexit, yn ôl Mr Drakeford

Mae safbwynt Prif Weinidog Cymru ar Brexit yn "ddryslyd" ac yn "anghynaladwy", yn ôl aelod o Llafur Cymru.

Dywedodd Mark Drakefordd ddydd Mercher ein bod ni'n agos iawn at gyrraedd y pwynt lle dylid galw refferendwm arall.

Ond mynnodd arweinydd y Blaid Lafur yng Nghymru mai'r flaenoriaeth yw rhoi digon o amser i Aelodau Seneddol gyrraedd consensws ar y cytundeb Brexit.

Yn ôl ffynhonnell o fewn y blaid, sydd am aros yn ddienw, "dylai Mr Drakeford fod yn gliriach wrth alw am refferendwm arall".

Daw'r sylwadau wrth i'r Prif Weinidog, Theresa May geisio perswadio ASau bleidleisio o blaid ei chytundeb Brexit am y trydydd tro.

Bydd pleidlais ar ei chynnig diweddaraf yn cael ei gynnal cyn 20 Mawrth, ar ôl i ASau bleidleisio o blaid gofyn am ganiatâd yr Undeb Ewropeaidd i oedi ar y broses o adael.

'Achosi tensiwn'

Dywedodd y ffynhonnell bod diffyg eglurder Mr Drakeford mewn cyfnod mor bwysig yn y broses o adael yr UE yn "achosi tensiwn o fewn cabinet Llywodraeth Cymru".

"Dydi hi ddim yn gynaliadwy i ddweud nad yw safbwynt Llywodraeth Cymru wedi newid, er bod cymaint wedi newid dros y ddwy flynedd a hanner diwethaf," meddai.

"Mae ei safbwynt yn ddryslyd. Mae'n rhaid iddo fod yn gliriach wrth alw am refferendwm arall."