Map, ap ac arddangosfa hanes 'cudd' Iddewiaeth ym Mangor

Ffynhonnell y llun, Menter Fachwen

Disgrifiad o'r llun, Hen siop Wartski, sydd gyferbyn â Chadeirlan Bangor

Datgelu cysylltiadau Iddewon â dinas Bangor yw nod arddangosfa, map ac ap sy'n cael ei lansio y penwythnos yma.

Dan yr enw 'Hanes Iddewiaeth ym Mangor', bydd yn ddathliad o bresenoldeb Iddewon yn y ddinas o'r Oesoedd Canol i'r Ail Ryfel Byd a thu hwnt.

Yr Athro Nathan Abrams o Ysgol Gerddoriaeth a Chyfryngau Prifysgol Bangor sydd wedi arwain y prosiect, gyda help Gareth Roberts o Brosiect Cerdded a Darganfod Menter Fachwen i greu'r map.

Mae'r gymuned Iddewig wedi chwarae rhan weithredol yn hanes ac etifeddiaeth Bangor dros y blynyddoedd, yn enwedig drwy deuluoedd blaenllaw fel y Wartskis a'r Pollecoffs, oedd â siopau ar y stryd fawr am nifer o flynyddoedd.

Disgrifiad o'r llun, Mae'r hanes wedi'i guddio, ond eto i'w weld ymhobman, medd yr Athro Nathan Abrams

"Mae gan ddinas Bangor a'r ardaloedd cyfagos hanes Iddewig cyfoethog," meddai'r Athro Abrams. "Ond yn anffodus, mae'r gymuned wedi crebachu a diflannu ac mae'r stryd fawr wedi'i thrawsnewid, felly nid llawer o bobl sy'n gwybod am yr hanes yma."

Ychwanegodd: "Mae o yma o flaen eu llygaid ond eto wedi'i guddio hefyd. Mae'r map, ap ac arddangosfa yma nid yn unig yn cofnodi'r hanes, ond yn eich helpu i'w ddarganfod.

"Rydym yn gobeithio bydd pobl yn dod aton ni ac yn dweud eu straeon cyn iddyn nhw fynd yn angof."

Roedd rhai o'r Iddewon, fel Isidore Wartski, wedi cael effaith drawsnewidiol ar y ddinas, gan helpu i adeiladu prosiectau tai newydd a chael gwared ar y tollau ar Bont y Borth.

Dywedodd Mr Roberts: "Fel arfer, 'dan ni'n gweithio ar mapia' hanes ac archaeoleg ond tro 'ma, ma' hwn yn fap am bobol.

"Fe agorodd [Isidore Wartski] siop enfawr yn fan hyn. Oedd o mor llwyddiannus, fe brynodd o Westy'r Castell ar draws y ffordd.

"O'r cychwyn mor fach ym Mangor... i feddwl bod y busnes yna wedi lledaenu'r holl ffordd i Lundain ac Efrog Newydd a rownd y byd i gyd. Mae'n anhygoel i feddwl am y peth."

Ffynhonnell y llun, Menter Fachwen

Disgrifiad o'r llun, Hen siop Pollecoff lle mae siop Peacocks erbyn heddiw

Cafodd yr arddangosfa, map ac ap eu cyllido gan Gyfrif Cyflymu Effaith ESRC Prifysgol Bangor.

Dywedodd yr Athro Abrams y byddai'n hoffi ymestyn y gwaith i drefi eraill yng ngogledd Cymru oedd â chymunedau Iddewig, fel Bae Colwyn, Llandudno a'r Rhyl, ond bod angen mwy o gyllid.

Bydd y lansiad yn Oriel Menter Gelfyddydau Bangor, Canolfan Siopa Deiniol rhwng 14:00 a 16:00 ddydd Sul 17 Mawrth.

Disgrifiad o'r llun, Mae'r ap a'r map yn rhoi mwy o fanylion am 24 o wahanol leoliadau