Â鶹ԼÅÄ

Darganfod hanes 'anweledig' merched y chwarel

  • Cyhoeddwyd
Chwarelwyr DorotheaFfynhonnell y llun, HAWLFRAINT Y goron: CBHC
Disgrifiad o’r llun,

Hyd yma, mae hanes merched yng nghyfnod y chwareli wedi bod yn anweledig yn y llyfrau hanes

Hanes dynion ydy hanes diwydiant chwareli Cymru yn ôl y llyfrau hanes.

Yn aml mae straeon y gwragedd, y mamau a'r merched oedd yn rhan o'r teuluoedd oedd yn cynnal y diwydiant sy'n rhan mor bwysig o hanes gogledd Cymru yn anweledig, i bob pwrpas.

Ffynhonnell y llun, Elin Tomos
Disgrifiad o’r llun,

Mae Elin Tomos wedi ymchwilio i hanes meddygaeth a'r chwareli ar gyfer gradd Meistr

Ond mae ymchwil gan Elin Tomos yn codi cwr y llen ar hanes rhai o ferched ardal y chwarel.

Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod, bu'n sôn am dair o'r menywod mae wedi dod ar eu traws wrth ymchwilio i hanes meddygaeth yn y chwareli ar raglen Aled Hughes, Radio Cymru.

"Mi ro'n i o'r farn nad oedd 'na lawer o ddim i'w ddweud am ferched y chwareli," meddai Elin.

"Mi rydan ni'n gwybod na fuodd na unrhyw ferch yn gweithio mewn unrhyw fodd mewn unrhyw chwarel, yn sicr yn y cyfnod diwydiannu cynnar.

"Mae hyd yn oed Merfyn Jones, awdurdod ar hanes y diwydiant a'r diwylliant oedd yn cyd-fynd â'r diwydiant llechi yn dweud 'little is known about the quarryman's wife and daughter'. Felly ro'n i i raddau wedi derbyn hyn ac yn meddwl nad oes na ddim byd i'w ddarganfod.

"Ond wrth i fi ddechrau gwneud fy ngwaith ymchwil ar ddarpariaeth iechyd yn yr ardaloedd nes i ddechrau sbïo ar ferched nid yn unig fel darparwyr iechyd ond fel y rheiny oedd yn derbyn gofal hefyd.

Triniaethau yn Ysbyty'r Chwarel yn Llanberis

Er mai ysbyty ar gyfer dynion oedd yr ysbyty yn Dinorwig daeth Elin Tomos ar draws enwau degau o ferched yn cael eu trin yno.

"Laura Humphreys oedd y ferch gynta imi ddod ar ei thraws. Doedd dim cofnodion meddygol cyn 1890 wedi goroesi felly nes i ffeindio Laura yn y papurau newydd," meddai.

"Roedd yn dweud ei bod wedi marw yn sydyn yn ysbyty chwarel Dinorwig a'i bod yn ferch i John Humphreys, TÅ· Mawr, Deiniolen.

"I ddechrau nes i feddwl ei bod hi wedi derbyn triniaeth oherwydd ryw gyfeillgarwch rhwng John ei thad a Stad y Faenol. Ei fod yn denant iddyn nhw efallai," meddai Elin.

"Ond wrth ddarllen ymlaen nes i ffeindio mai hi oedd prif fetron ysbyty chwarel Dinorwig.

Disgrifiad o’r llun,

Ysbyty Chwarel Dinorwig yn Llanberis

"Nes i ffeindio ei bod hi wedi bod ynghlwm ag achos llys yn 1876 ac mi aeth â llawfeddyg yr ysbyty, Walter W Winston, i'r cwrt."

Yn ôl y stori roedd Laura wedi deffro yn y nos a darganfod Walter yn ei stafell wely. Wedi iddo redeg o'r stafell sylwodd Laura bod dwy sofran o'i heiddio wedi diflannu ac aeth â'r llawfeddyg i'r llys.

"Mae hyn yn dweud lot am Laura oherwydd ei bod yn barod i fynd a'i chydweithiwr i'r llys yn 1876. Fysa hi 'di gorfod parhau i weithio efo fo a wedyn yn ei weld yn y llys," meddai Elin.

Ar y pryd byddai cyflog metron tua £20 y flwyddyn a llawfeddyg yn ennill tua £550 y flwyddyn - tua £80,000 yn ein harian ni heddiw.

Ond fe wnaeth y rheithgor ganfod Walter yn ddieuog.

'Mrs Davies'

Mae llawer o'r merched wedi eu cofnodi yn ôl eu cyfenw yn unig, efallai am fod hyn "yn dangos bod y pwyslais ar y ffaith eu bod yn wragedd priod a dyna sut roeddan nhw'n cael eu trin" meddai Elin Tomos.

Un o'r rhain oedd Mrs Davies, Bron Elidir, Dinorwig ac roedd yr enw'n canu cloch.

"Ryw fis cyn ffeindio Mrs Davies oni wedi ffeindio Charles Davies, Bron Elidir, Dinorwig, bachgen 13 a foddodd ym Mhwllheli ar drip ysgol Sul," meddai.

"Roedd yn un o 12 a foddodd pan wnaeth y cwch gapseisio ar drip Ysgol Sul."

Drwy ddod o hyd i Charles yn y cyfrifiad roedd Dr Tomos y gallu ffeindio ei fam, "a mwya sydyn roedd gen i enw, Jane Davies, ac roedd hi wedi treulio bron i fis yn ysbyty'r chwarel yn derbyn triniaeth ar gyfer troed dde tiwbercylaidd.

Disgrifiad o’r llun,

Ward yn Ysbyty Chwarel Dinorwig lle roedd Laura Humphreys yn fetron a Jane Davies ac Elen Williams yn gleifion

"Mae Jane mewn ffordd yn enghraifft berffaith o ferch chwarelyddol. Mae'n cael ei geni yn 1849 yn yr Ysgoldy yn Dinorwig.

"Mae'n ferch i chwarelwr, mae ei rhieni wedi dod o Sir Fôn, felly mae'n cynrychioli y mudo mawr fuodd o Sir Fôn i ardaloedd y chwareli.

"Mae'n priodi chwarelwr, mae'n cael plant ac mae'n dioeddf o TB, felly mae'n crisialu merch gyffredin [y cyfnod] bron a bod."

Elen Williams

"Eto, dani'n gweld y ffordd roedd TB yn bla yn ardaloedd y chwareli," meddai Elin.

"Mae'r rhan fwyaf o ferched yn derbyn triniaeth am gymalau tiwbercylaidd."

Er fod y diciáu (TB) yn afiechyd sy'n cael ei gysylltu gyda'r ysgyfaint mae'n gallu aros yn y cymalau ar ôl i'r claf wella ac roedd y merched yma yn cael eu trin am hynny.

"Y driniaeth roedd Dr Mills y llawfeddyg yn ei roi oedd plastar Paris am gyfnod o chwe wythnos i ddeufis. Mae Elen yn treulio deufis fel claf mewnol yn yr ysbyty ym mis Mai 1894 yn dioddef efo cymalau pen-glin tiwbercylaidd ac yn ei hachos hi mae Dr Mills yn penderfynu torri ei choes hyd at ei chlun.

"Felly mae hi'n colli ei choes ac yn mis Hydref y flwyddyn honno mae'n dychwelyd i'r ysbyty am fis pellach achos bod y clwyf ddim wedi llwyr wella.

"Roedd hi'n 34 mlwydd oed yn colli ei choes ac roedd ganddi 3 o blant o dan 3 oed, Jane, Huw a William, oedd tua chwe mis."

Ffynhonnell y llun, Hulton Archive
Disgrifiad o’r llun,

Chwarelwyr yn torri llechi yn Llanberis tua 1880

Beth sy'n gwneud y stori'n fwy trist meddai Elin Tomos ydy bod Elen yn byw ym Mhenceunant ar lethrau'r Wyddfa, un o elltydd mwyaf serth Dyffryn Peris.

"Os ydych chi wedi gweld Ras yr Wyddfa ar y teledu, dyma'r llwybr cyntaf maen nhw yn cychwyn arni... roedd hi'n byw ar yr allt honno."

Mae'r stori yma'n dod â chaledi'r oes yn fyw meddai Elin Tomos ac mae straeon unigol fel rhai Laura, Jane ac Elen yn rhoi chwyddwydr ar hanes y gymdeithas gyfan.

Mae Elin yn rhan o brosiectsy'n cael ei gynnal gan griw o artistiaid a sefydliadau lleol yn ardal chwareli'r gogledd.

Hefyd o ddiddodrdeb: