Y Gweilch yn dweud nad ydynt 'ar fin' uno â'r Scarlets

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Pe bai'r trafodaethau yn llwyddiannus byddai pedwar rhanbarth proffesiynol yn parhau i weithredu - un yr un i'r gogledd, de, gorllewin a dwyrain

Nid yw'r Gweilch ar fin uno â rhanbarth rygbi arall fel rhan o gynlluniau i ad-drefnu'r gêm yng Nghymru, yn ôl datganiad gan y rhanbarth.

Fe wnaeth y Bwrdd Rygbi Proffesiynol (PRB) gyfarfod ddydd Mawrth er mwyn trafod y posibilrwydd o uno'r Scarlets a'r Gweilch a chreu rhanbarth newydd yn y gogledd.

Ond mewn datganiad dywedodd y Gweilch nad oedden nhw'n agos at gytundeb i uno, gan feirniadu ymgais "ddryslyd" a "di-glem" i ailstrwythuro.

Mae'r PRB wedi cwestiynu datganiad y Gweilch, gan ddweud bod y corff o blaid uno'r rhanbarthau gan ei fod yn cydfynd â'r strategaeth gafodd ei lunio ar y cyd ym mis Ionawr.

Yn gynharach, daeth i'r amlwg bod chwaraewyr rygbi proffesiynol yn poeni'n ofnadwy am gynlluniau i ad-drefnu, yn ôl y corff sy'n diogelu lles a hawliau.

'Haeddu gwell'

Mae Cadeirydd y Gweilch, Mike James, bellach wedi ymddiswyddo o'r rhanbarth a'r PRB gan roi'r bai ar "reolaeth drychinebus" Undeb Rygbi Cymru o'r ad-drefnu.

Fe wnaeth y rhanbarth gefnogi Mr James mewn datganiad brynhawn Mawrth, gan ddweud nad oedd modd iddynt gadw'n dawel bellach, yn sgil y "dyfalu gwyllt, gelyniaeth ac ansicrwydd yn y gêm ranbarthol".

Wrth ddweud nad oedd y rhanbarth ar fin uno gyda'r Scarlets, dywedodd y datganiad bod y rhanbarthau wedi eu "gorfodi i mewn i ras i oroesi", a bod pawb ynghlwm a'r gêm yng Nghymru "yn sicr yn haeddu gwell".

Er yn cydnabod yr angen am newid, dywedodd y datganiad bod angen proses "broffesiynol" gydag "ymgynghoriad a thryloywder" wrth wraidd hynny.

Disgrifiad o'r fideo, "Cadw swyddi yw'r peth pwysicaf", yn ôl Ken Owens

Mewn ymateb, dywedodd y PRB eu bod yn benderfynol o wneud yr hyn sydd orau i rygbi proffesiynol yng Nghymru.

"Dyw'r sylwadau a wnaed gan Y Gweilch heddiw ddim yn cydfynd â chofnodion ein cyfarfodydd ni na chwaith y cytundebau sydd wedi eu llunio hyd yma.

"Ni fydd yr hyn a ddigwyddodd heddiw yn newid y cynlluniau. Mae hi'n hanfodol bod y manyldeb a'r atebolrwydd sydd wedi bod yn rhan o'r trafodaethau hyd yn hyn yn parhau."

Ychwanegodd y datganiad eu bod nhw wedi eu siomi gan amseru'r cyhoeddiad a'r ansicrwydd y mae wedi ei achosi i chwaraewyr, staff a chefnogwyr rygbi yng Nghymru.