'Pryder ofnadwy' am gynlluniau ad-drefnu rhanbarthau

Disgrifiad o'r fideo, "Cadw swyddi yw'r peth pwysicaf", yn ôl Ken Owens

Mae chwaraewyr rygbi proffesiynol yn poeni'n ofnadwy am gynlluniau i ad-drefnu rhanbarthau Cymru, yn ôl y corff sy'n diogelu lles a hawliau chwaraewyr yng Nghymru.

Daw datganiad Cymdeithas Chwaraewyr Rygbi Cymru (WRPA) wrth i'r Bwrdd Rygbi Proffesiynol (PRB) drafod y posibilrwydd o uno'r Scarlets a'r Gweilch a chreu rhanbarth newydd yn y gogledd.

Ond mewn datganiad brynhawn ddydd Mawrth, dywedodd y Gweilch nad oedden nhw'n agos at gytundeb i uno, gan feirniadu ymgais "ddryslyd" a "di-glem" i ailstrwythuro.

Does dim penderfyniad terfynol wedi ei wneud hyd yma, ond mae nifer o ffigyrau amlwg o fewn y gêm wedi mynegi eu pryder am yr uno posib.

Dywedodd Ken Owens, bachwr Cymru a'r Llewod sydd hefyd yn gadeirydd ar yr WRPA: "Dyma'r sefyllfa anoddaf i mi ac eraill ei wynebu yn ystod fy ngyrfa."

Pe bai'r trafodaethau yn llwyddiannus byddai pedwar rhanbarth proffesiynol yn parhau i weithredu yng Nghymru - un yr un yn y gogledd, de, gorllewin a dwyrain.

Nid yw Undeb Rygbi Cymru wedi gwneud unrhyw sylw yn gyhoeddus ynglŷn â'r prosiect ers 10 Ionawr, lle ddywedodd y corff na fydden nhw'n camu'n ôl rhag gwneud penderfyniadau anodd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae gelyniaeth leol rhwng y Scarlets a'r Gweilch

Mynnodd Owens bod angen cynrychiolaeth chwaraewyr proffesiynol ar y PRB "gan na fyddai rygbi Cymru yn bodoli hebddyn nhw".

Mae'r PRB yn cynnwys cynrychiolydd o'r pedwar rhanbarth presennol yng Nghymru ac un cynrychiolydd o Undeb Rygbi Cymru.

Ychwanegodd Owens: "Fel cadeirydd rydw i'n poeni yn ofnadwy am y sefyllfa sy'n wynebu chwaraewyr yn y pedwar rhanbarth.

"Rydw i'n apelio at yr rhanddeiliad i ystyried pryderon a lles pawb sy'n debygol o gael eu heffeithio gan y newidiadau yn ystod y trafodaethau."

Y Gweilch yn gwadu

Mae cadeirydd y Gweilch, Mike James, bellach wedi ymddiswyddo o'r rhanbarth a'r PRB gan roi'r bai ar "reolaeth drychinebus" Undeb Rygbi Cymru o'r cynllun ad-drefnu.

Fe wnaeth y rhanbarth gefnogi Mr James mewn datganiad brynhawn Mawrth, gan ddweud nad oedd modd iddynt gadw'n dawel bellach, yn sgil y "dyfalu gwyllt, gelyniaeth ac ansicrwydd yn y gêm ranbarthol".

Wrth ddweud nad oedd y rhanbarth ar fin uno gyda'r Scarlets, dywedodd y datganiad bod y rhanbarthau wedi eu "gorfodi i mewn i ras i oroesi", a bod pawb ynghlwm a'r gêm yng Nghymru "yn sicr yn haeddu gwell".

Er yn cydnabod yr angen am newid, dywedodd y datganiad bod angen proses "broffesiynol" gydag "ymgynghoriad a thryloywder" wrth wraidd hynny.

'Llanast enfawr'

Un arall sydd wedi beirniadu'r ad-drefnu yw cyn-glo Cymru a'r Gweilch, Ian Gough: "Mae'r undeb wedi creu llanast enfawr mewn cyfnod sydd mor bwysig i rygbi Cymru.

"Mae Cymru yn anelu am y Gamp Lawn, gyda gêm anodd yn erbyn yr Alban ar y penwythnos, ac maen nhw'n gwneud hyn. 'Dwi methu a deall y peth.

"Dydw i ddim yn meddwl bod yr holl beth wedi cael ei gynllunio yn dda. Maen nhw'n benderfynol o ddilyn y llwybr yma i'r gogledd, ond 'dwi ddim yn gweld hynny'n ymarferol yn y tymor hir."

Ychwanegodd ei fod yn rhagweld problemau iechyd meddwl wrth i chwaraewyr wynebu'r posibilrwydd o golli swyddi.

I osgoi neges Twitter, 1
Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen Twitter a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys

Diwedd neges Twitter, 1

I osgoi neges Twitter, 2
Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen Twitter a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys

Diwedd neges Twitter, 2

Ar raglen Taro'r Post Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru, dywedodd Edward Jenkins sy'n cefnogi'r Scarlets bod yr uno posib yn "syniad ofnadwy".

"Doeddwn i ffaelu credu'r peth. Mae uno dau ranbarth fwyaf llwyddiannus rygbi Cymru yn syniad gwael," meddai.

"Dwi wedi cefnogi'r Scarlets ers cael fy ngeni, ac mae'r tîm wedi bod yn hollbwysig yn yr ardal ers cenedlaethau."

Ychwanegodd: "Dwi'n gobeithio byddai'r rhanbarth yn llwyddiannus ond byddwn i methu â chefnogi'r tîm yn yr un ffordd."

Roedd cefnogwr y Gweilch, Hywel Ifans, hefyd yn gwrthwynebu'r ad-drefnu gan ddweud y byddai traddodiadau a hanes y ddau glwb yn cael eu colli.

Ond yn ôl Richard Hughes o Bwllheli: "Mae'r gogledd yn galw am ranbarth ei hun ers blynyddoedd, ac er mwyn cystadlu ar lefel rhyngwladol mae angen cynhyrchu chwaraewyr o bob rhan o'r wlad."