Wyth darpar ymgeisydd yn is-etholiad Gorllewin Casnewydd

Mae enwau wyth darpar ymgeisydd wedi eu cyhoeddi hyd yma ar gyfer yr is-etholiad i ddewis olynydd i Paul Flynn fel Aelod Seneddol Gorllewin Casnewydd.

Mae'r Blaid Lafur, y Ceidwadwyr, Plaid Cymru, y Democratiaid Rhyddfrydol, y Blaid Werdd, Renew, UKIP a'r Abolish the Welsh Assembly Party wedi cyhoeddi pwy fydd yn eu cynrychioli nhw yn yr is-etholiad, sy'n cael ei gynnal ar 4 Ebrill.

Bu farw Mr Flynn, AS Llafur yr etholaeth ers 1987, fis diwethaf.

Mae gofyn i bapurau enwebu darpar ymgeiswyr gael eu cyflwyno erbyn prynhawn Gwener, 8 Mawrth.

Gorllewin Casnewydd - yr ymgeiswyr hyd yma

  • Y Blaid Lafur - Ruth Jones
  • Y Blaid Geidwadol - Matthew Evans
  • Plaid Cymru - Jonathan T Clark
  • Democratiaid Rhyddfrydol Cymru - Ryan Jones
  • Y Blaid Werdd - Amelia Womack
  • UKIP - Neil Hamilton
  • Abolish the Welsh Assembly Party - Richard Suchorzewski
  • Renew - June Davies