Penaethiaid rygbi i drafod uno'r Scarlets a'r Gweilch

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Disgrifiad o'r llun, Os bydd y syniad yn cael ei dderbyn, bydd penderfyniad i ddilyn ynglŷn â lliw crysau'r tîm newydd a ble bydd y gemau cartref yn cael eu cynnal

Bydd penaethiaid rygbi yn cwrdd ddydd Mawrth i drafod y posibilrwydd o uno'r Scarlets a'r Gweilch.

Y Bwrdd Rygbi Proffesiynol (PRB) fydd yn trafod y syniad - y cam mwyaf eithafol o ran newid rygbi rhanbarthol yng Nghymru ers 2003.

Mae ffigyrau amlwg o fewn rygbi'r undeb yng Nghymru yn awyddus i weld tîm proffesiynol yn cael ei ddatblygu yn y gogledd.

Byddai pedwar rhanbarth proffesiynol yn parhau i weithredu yng Nghymru - un yr un yn y gogledd, de, gorllewin a dwyrain.

Ansicrwydd

Mae'r trafodaethau blaenorol o uno'r Gweilch a'r Gleision wedi methu.

Mae'r PRB yn cynnwys cynrychiolydd o'r pedwar rhanbarth presennol yng Nghymru ac un cynrychiolydd o Undeb Rygbi Cymru.

Disgrifiad o'r llun, Fe wnaeth aelodau o garfan Cymru gwrdd â phrif weithredwr URC, Martyn Phillips yr wythnos ddiwethaf

Does dim penderfyniad terfynol wedi cael ei wneud hyd yma, ac mae ansicrwydd ynglŷn â'r ffaith os mai uno fydd ffawd y ddau glwb o'r gorllewin.

Yn draddodiadol, mae gelyniaeth leol rhwng y Scarlets a'r Gweilch.

Dyma'r ddau glwb mwyaf llwyddiannus yng Nghymru ers i rygbi rhanbarthol gael ei gyflwyno yn 2003.

Mae'r Gweilch wedi ennill y gynghrair bedair gwaith, a daeth llwyddiant mwyaf diweddar y Scarlets yn 2017 pan lwyddon nhw i ennill tlws y Pro12.

Enw a liw crys?

Os fydd y syniad yn cael ei dderbyn, bydd penderfyniad i ddilyn ynglŷn ag enw a lliw crysau'r tîm newydd, a ble bydd y gemau cartref yn cael eu cynnal.

Nid yw Undeb Rygbi Cymru wedi gwneud unrhyw sylw yn gyhoeddus ynglŷn â'r prosiect ers i ddatganiad gael ei ryddhau ar 10 Ionawr oedd yn cadarnhau na fydden nhw'n camu'n ôl rhag gwneud penderfyniadau anodd.

Fe wnaeth ambell i aelod pryderus o garfan Cymru gwrdd â phrif weithredwr Undeb Rygbi Cymru, Martyn Phillips yr wythnos ddiwethaf i drafod dyfodol rygbi rhanbarthol yng Nghymru.

Fe wnaeth Cymdeithas Cefnogwyr Unedig Cymru (JSB Cymru), sy'n cynrychioli cefnogwyr y pedwar rhanbarth, hefyd gwrdd â Mr Phillips a chyfarwyddwr perfformiad Undeb Rygbi Cymru, Ryan Jones, nos Lun.

Mewn datganiad, dywedodd JSB Cymru: "Fe gawsom drafodaethau agored ynglŷn â'r prosiect ac rydym wedi cael clywed fod cyfarfod pwysig yfory."