Gwobrau Into Film: Cymry'n profi llwyddiant

Ffynhonnell y llun, Into Film

Disgrifiad o'r llun, Fe wnaeth Rhys Roberts dderbyn gwobr Athro'r Flwyddyn gan Rhys Ifans

Mae Cymry wedi profi llwyddiant gan drechu cystadleuaeth o bob cwr o'r DU i ennill dwy wobr yng ngwobrau Into Film yn Llundain.

Fe wnaeth myfyrwyr The Hollies, Caerdydd, ennill gwobr Clwb Ffilm y Flwyddyn (dan 12 oed) a Rhys Roberts o Ysgol Gynradd Llanharan ym Mhont-y-clun gafodd ei enwi'n Athro'r Flwyddyn.

Cafodd trefnwyr ac aelodau Clwb Hollies eu canmol am fod yn "glwb sy'n newid bywydau bob dydd", a Mr Roberts am ei "wersi ysbrydoledig ac angerddol sy'n pwytho ffilm o fewn y dysgu".

Mae'r gwobrau'n talu teyrnged i bobl ifanc rhwng pump a 19 oed o bob cwr o'r DU sydd wedi dangos dawn arbennig neu wedi cyflawni gwaith eithriadol ym myd ffilmiau

Ffynhonnell y llun, Into Film

Disgrifiad o'r llun, Clwb The Hollies wnaeth ennill gwobr Clwb Ffilm y Flwyddyn (dan 12 oed)

Dywedodd pennaeth clwb The Hollies, Lisa Marshall: "Nid clwb ffilm ar ddiwrnod penodol neu ar adeg benodol ar ôl ysgol yw ein clwb ffilm ni. Dyma glwb sy'n rhan o'n cwricwlwm.

"Mae'r plant, y teuluoedd yn elwa. Mae'r clwb wedi cael effaith enfawr a dwi'n credu bod hynny'n unigryw."

Ychwanegodd Mr Roberts: "Roedd yr enwebiad ar gyfer Athro'r Flwyddyn yn syndod mawr i mi.

"Mae'n anrhydedd mawr i ennill, gan fod hyn yn arwydd gwych o gydnabyddiaeth am yr amser, yr ymdrech a'r pleser o weld plant yn troi at botensial ffilm."

'Ysbrydoliaeth go iawn'

Dywedodd pennaeth Into Film Cymru, Non Stevens: "Mae Mr Roberts yn ysbrydoliaeth go iawn gan ei fod wedi helpu cynnwys ffilm yng nghwricwlwm Ysgol Llanharan, sydd ar fin dod yn ofyniad allweddol y cwricwlwm newydd gan Lywodraeth Cymru. Felly mae Rhys wir yn torri tir newydd.

"Mae'r Hollies hefyd wedi gwneud yn eithriadol o dda, o gofio'r mai categori ar gyfer pob ysgol ar draws y DU gyfan yw'r wobr.

"Rydw i wedi ymweld â nhw sawl gwaith dros y blynyddoedd diwethaf, ac yn gallu bod yn dyst i'r gwaith anghredadwy ar droed yno."