Digartrefedd yng Nghaerdydd 'ar ei waethaf ers degawdau'

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae nifer o bebyll wedi ymddangos ar draws Caerdydd yn ddiweddar

Mae nifer y bobl ddigartref yng Nghaerdydd ar ei lefel uchaf ers degawdau, yn ôl ymgyrchydd fu'n gaeth i gyffuriau tra'n byw ar y stryd.

Bu farw o leiaf 11 person digartref ar strydoedd Cymru yn 2017, yn ôl data newydd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Mae cyfradd y bobl ddigartref yn ardaloedd difreintiedig Cymru dros dair gwaith y lefel mewn ardaloedd breintiedig, yn ôl y ffigyrau.

Dywedodd Mathew Hancock, 37, ei fod yn ceisio osgoi canol y ddinas pan fo hynny'n bosib am ei fod yn ei atgoffa o atgofion poenus.

"Mae'n well gen i beidio dod allan yma a gweld y boen - bob man chi'n edrych mae 'na ddioddef," meddai.

Disgrifiad o'r llun, Mathew Hancock (dde) gyda ffrind arall fu'n byw ar y stryd, Lee Knight

Roedd Mr Hancock yn byw ar y stryd ag yntau ond yn 14 oed, cyn mynd yn gaeth i gocên.

"Roedd e'n erchyll - ro'n i'n fferru a doedd gennych chi neb allwch chi droi ato," meddai.

"Ro'n i'n gaeth i gocên yn 15 oed, ac am 19 mlynedd bu'n faich ar fy mywyd.

"Ond yn yr 19 mlynedd yna, doedd hi erioed mor ddrwg ag y mae hi nawr."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae rhai pobl ddigartref yng Nghaerdydd yn dewis byw mewn pebyll yn hytrach na mynychu canolfan loches Huggard

Mae Mr Hancock bellach yn rhydd o'r cyffuriau, ac yn cynnig ei amser - a'i arian - i helpu'r rheiny sy'n byw ar y stryd.

Dywedodd fod gwasanaethau sy'n helpu'r digartref yn ei chael yn anodd ymdopi gyda chyllidebau llai oherwydd toriadau, er bod y galw'n cynyddu'n sylweddol.

Ychwanegodd bod cyffuriau rhad yn ychwanegu at y straen sydd ar y gwasanaethau sy'n eu cefnogi.

'Torcalonnus'

Daeth i'r amlwg ym mis Ionawr bod pobl ddigartref yng Nghaerdydd yn dewis byw mewn pebyll yn hytrach na mynychu canolfan loches Huggard, gan honni bod y lle yn llawn cyffuriau a lladron.

"Does 'na ddim digon o lety yno - dim gwelyau a dim lle ar y llawr. Os ewch chi lawr yno ar ôl hanner nos byddech chi'n llefain," meddai Mr Hancock.

"Pan does 'na ddim lle ar y llawr, mae pobl yn cysgu y tu allan. Mae'n dorcalonnus."