Galw am ffyrdd tecach o feirniadu Cân i Gymru

Ffynhonnell y llun, S4C

Mae angen ffyrdd tecach o feirniadu cystadleuaeth Cân i Gymru er mwyn sicrhau cyfartaledd rhwng nifer y cyfansoddwyr benywaidd a gwrywaidd, yn ôl cyflwynydd radio.

Dim ond un gân yn y rownd derfynol eleni sydd wedi ei chyfansoddi gan ferch, ac mae Bethan Elfyn wedi awgrymu newid fformat beirniadu'r rhaglen.

Awgrymodd Ms Elfyn efallai y byddai modd creu dau gategori, o gyfansoddwyr benywaidd ac un arall o rai gwrywaidd, fel bod niferoedd cyfartal yn cael eu dewis ar gyfer y rhaglen.

Yn ôl S4C, cafodd rhestr fer Cân i Gymru ei dewis gan banel o arbenigwyr (dau ddyn a dwy ddynes) heb wybod pwy oedd y cyfansoddwyr nac ychwaith os mai gwryw neu benyw oedd y cyfansoddwyr.

Mae Cân i Gymru yn dathlu 50 mlynedd ers y rhaglen gyntaf eleni, a bydd naw cystadleuydd yn ceisio am y wobr nos Wener.

O ran y cantorion, pum menyw a phedwar dyn sydd wedi eu dewis i ganu'r cyfansoddiadau.

Disgrifiad o'r llun, Erfyl Owen oedd enillydd Cân i Gymru 2018

Dywedodd Ms Elfyn wrth raglen Newyddion 9: "Ie, y caneuon gorau sydd 'di mynd trwyddo, ond barn bersonol y beirniaid yw e, felly mae 'na ffordd o ddeud 'oce, allan o'r pool yma o ganeuon gan gyfansoddwyr benywaidd dewiswch bump, ac allan o'r pool yma o gerddoriaeth dewiswch bump arall, ac wedyn ma mae o'n deg yndydi?"

"Dwi'n credu bo' nhw'n trio neud system deg, ac mae'r ffaith fod y caneuon yn dda yn beth da... ond barn bersonol yw e, ac felly sut allwn ni ddweud bod 'na ddim ffordd well o wneud rhywbeth?"

'Safon y gerddoriaeth sy'n bwysig'

Ond yn ôl Betsan Haf Evans, fu'n cystadlu ddwy flynedd yn ôl, byddai categoreiddio'r caneuon yn gamgymeriad.

"Mae hwnna i fi, yn gwneud i fi feddwl 'wel mae dynion yn well na ni de'... mae'n bwysig taw am y gân, a'r cyfansoddi yw e, safon y gerddoriaeth sydd yn bwysig, nid os ydych chi'n ddyn neu'n fenyw," meddai.

Mewn datganiad, dywedodd S4C: "Ar hyn o bryd mae'r wyth gân orau yn cael eu dewis allan o'r holl ymgeiswyr heb i'r beirniaid wybod pwy yw unrhyw gyfansoddwr/wraig, hynny yw yn gwbl "ddall".

"Ar hyn o bryd rydym yn credu mai dyma'r ffordd orau a mwyaf teg o sicrhau mai'r caneuon gorau sy'n cyrraedd y rownd derfynol."