Â鶹ԼÅÄ

Chwe Gwlad: Enwi tîm Cymru i wynebu Lloegr ddydd Sadwrn

  • Cyhoeddwyd
Gareth DaviesFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Gareth Davies fydd yn dechrau fel maswr am y tro cyntaf yn y bencampwriaeth eleni

Mae prif hyfforddwr Cymru, Warren Gatland, wedi enwi carfan brofiadol ar gyfer y gêm yn erbyn Lloegr yn nhrydedd rownd Pencampwriaeth y Chwe Gwlad ddydd Sadwrn.

Dau newid sydd i'r tîm a ddechreuodd y fuddugoliaeth yn erbyn Ffrainc, gyda Gareth Davies yn dechrau fel mewnwr a Cory Hill yn camu mewn i'r ail reng.

Gareth Anscombe fydd yn dechrau fel maswr er gwaetha'r sôn cyn y cyhoeddiad y byddai Dan Biggar yn cadw ei le.

Bydd Tomos Williams yn methu'r gêm oherwydd anaf, gydag Aled Davies, a ddechreuodd y gêm yn erbyn Yr Eidal, wedi ei enwi ar y fainc.

Mae Samson Lee a Leon Brown hefyd yn methu'r gêm hollbwysig oherwydd anafiadau.

Mae'r ymwelwyr wedi gwneud dau newid i'r tîm a drechodd Ffrainc yn ail rownd y bencampwriaeth, gyda'r prop Ben Moon a'r asgellwr Jack Nowell yn cael eu cynnwys.

Yn ôl adroddiadau, mae disgwyl i do'r stadiwm fod ar agor, yn groes i ddymuniad y tîm cartref.

'Her enfawr'

Dywedodd Gatland: "Rydyn ni'n edrych 'mlaen at chwarae gêm gartref, a chael y cyfle i adeiladu ar y ddau berfformiad a'r ddwy fuddugoliaeth hyd yn hyn.

"Mae'r pythefnos diwethaf wedi bod yn grêt... rydyn ni'n edrych yn dda ac mae'r garfan i gyd yn barod i wthio 'mlaen nawr.

"Mae chwarae yn erbyn Lloegr yn her enfawr, maen nhw'n llawn hyder ac yn chwarae'n dda iawn ar hyn o bryd, ac mae'n rhaid i ni ei gwneud hi mor anodd â phosib iddyn nhw ddydd Sadwrn."

Ychwanegodd ei bod hi'n benwythnos hollbwysig ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Tîm Cymru: Liam Williams; George North, Jonathan Davies, Hadleigh Parkes, Josh Adams; Gareth Anscombe, Gareth Davies; Rob Evans, Ken Owens, Tomas Francis, Cory Hill, Alun Wyn Jones (C), Josh Navidi, Justin Tipuric, Ross Moriarty.

Eilyddion: Elliot Dee, Nicky Smith, Samson Lee, Dillon Lewis, Adam Beard, Aaron Wainwright, Aled Davies, Dan Biggar, Owen Watkin.

Tîm Lloegr: Elliot Daly; Jack Nowell, Henry Slade, Manu Tuilagi, Johnny May; Owen Farrell, Ben Youngs; Ben Moon, Jamie George, Kyle Sinckler, Courtney Lawes, George Kruis, Mark Wilson, Tom Curry, Billy Vunipola.

Eilyddion: Luke Cowan-Dickie, Ellis Genge, Harry Williams, Joe Launchbury, Brad Shields, Dan Robson, George Ford, Joe Cokanasiga.