Â鶹ԼÅÄ

Sicrhau hediadau rhwng Caerdydd a Môn am bedair blynedd

  • Cyhoeddwyd
Eastern AirwaysFfynhonnell y llun, AirTeamImages.com
Disgrifiad o’r llun,

Dymuniad Llywodraeth Cymru yw gwneud cais i ddefnyddio awyrennau 30 sedd ar y gwasanaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd y gwasanaeth awyren rhwng Ynys Môn a Chaerdydd yn parhau am o leiaf pedair blynedd arall.

Cwmni Eastern Airways sydd wedi cael y cytundeb, sef y cwmni sydd wedi bod yn darparu'r gwasanaeth ers mis Mawrth 2017.

Mae'r gwasanaeth rhwng Caerdydd a Môn yn derbyn £1.2m o gymorth pob blwyddyn gan Lywodraeth Cymru.

Dywedodd Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates: "Mae angen cysylltiadau gwell ar Gymru.

"Mae Eastern Airways yn rhannu ein dyheadau i dyfu'r llwybr yn sylweddol dros y pedair blynedd nesaf, ac o ganlyniad cynyddu'r manteision economaidd i Gymru.

"Rwy'n gobeithio y bydd cwmni Eastern Airways yn gweithredu ei Jetstream 41 ar ei gapasiti llawn o 29 o seddi. Mae hyn yn 50% mwy o seddi na sy'n cael eu cynnig ar hyn o bryd.

"Byddai'r cynnydd hwn yn amodol ar Lywodraeth y DU yn cytuno i Faes Awyr Ynys Môn gael ei ailddosbarthu. Byddai hyn yn galluogi defnyddio capasiti llawn yr awyrennau mwy, gan helpu i ddod â chyfleoedd cyffrous ar gyfer cynnydd i'r ardal."

Gwrthod cais i ehangu

Y llynedd cafodd cais gan Lywodraeth Cymru i gynyddu nifer y seddi ar hediadau rhwng Caerdydd ac Ynys Môn ei wrthod gan Lywodraeth y DU.

Y gobaith oedd y byddai Llywodraeth y DU yn llacio rheolau diogelwch yn Y Fali i alluogi awyrennau mwy i hedfan oddi yno.

Ychwanegodd Mr Skates wrth gyhoeddi manylion y cytundeb: "Mae'r angen i gynyddu capasiti ar y llwybr wedi cael ei ddangos yn glir dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

"Gydag effeithlonrwydd gwell a chynhyrchiant uwch o ganlyniad i refeniw ychwanegol gan deithwyr, byddai'r capasiti uwch hwn yn arwain at y cymhorthdal yn cael ei leihau dros bedair blynedd y contract, o gymharu â'r sefyllfa pe baen ni'n parhau i weithredu gydag 19 sedd."