'Mae mwy a mwy o bobl yn ceisio stopio Brexit', medd AS

Disgrifiad o'r llun, Mae David Jones yn herio gwrthwynebwyr Brexit i gynnig cynlluniau gwell i hwyluso'r broses o adael yr UE

"Mae mwy a mwy o bobl yn ceisio stopio Brexit", yn ôl AS Ceidwadol o Gymru sy'n cefnogi gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Dywed David Jones, y cyn weinidog Brexit, bod gwleidyddion sy'n galw am ail refferendwm, neu ragor o amser i drafod gyda'r UE, heb gyflwyno cynlluniau eu hunain o ran gadael.

Mae AS Gorllewin Clwyd yn rhagweld na fydd na gytundeb Brexit tan "ychydig ddyddiau" cyn i'r DU adael yr UE ar 29 Mawrth.

Ond mae AS Llafur Gogledd Caerdydd, Anna McMorrin yn dweud mai Etholiad Cyffredinol neu refferendwm ar delerau terfynol Brexit yw'r unig ffyrdd o osgoi "anhrefn".

Mae Prif Weinidog Theresa May wedi methu â chael cefnogaeth ASau i'r cytundeb a gafodd ei daro gyda'r UE fis Hydref y llynedd.

Parhau mae'r dadlau ymhith ASau yn San Steffan a ddylid ceisiau gohirio'r broses o adael yr UE er mwyn cael mwy o amser i drafod telerau Brexit.

"Y ddadl wedi ei setlo"

"Dyw'r rhain ddim yn ddadleuon dros adael yr UE o gwbwl," meddai Mr Jones wrth raglen Sunday Supplement ar Radio Wales.

"Mae'r ddadl honno wedi ei setlo. Mae yna ddyletswydd arnon ni i sicrhau bod y DU yn gadael."

Mae'n cyhuddo gwrthwynebwyr o ymdrechion "anobeithiol i gadw'r wlad yn yr UE" yn hytrach na chyflwyno cynlluniau gwahanol i atal Brexit digytundeb.

Mae Mr Jones yn gwrthod cynllun Mrs May i oresgyn problem backstop Gogledd Iwerddon, sy'n ceisio osgoi ffin galed gyda Gweriniaeth Iwerddon ond sydd â'r potensial i glymu'r DU i'r UE am flynyddoedd.

Ychwanegodd: "Rwy'n amau, wrth i ni nesáu - ychydig ddydiau, efallai, o'r diwrnod ymadael - fe fydd yna gyfnod o brysurdeb mawr.

"Rwy'n meddwl y bydd yr UE yn cynnig sicrwydd cyfreithiol a fydd yn datrys y sefyllfa ac yn cael gwared ar y backstop."

Ffynhonnell y llun, HoC

Disgrifiad o'r llun, Dywed Anna McMorrin bod busnesau yn etholaeth Gogledd Caerdydd yn poeni am 'anhrefn' Brexit heb gytundeb

Mae Mr Jones yn pwysleisio na fydden 'na drychineb wedi Brexit digytundeb, ond yn ôl Ms McMorrin dyw busnesau ddim yr un mor hyderus.

Brexit, medda hi, yw'r "mater mwyaf" yn hanes y DU "ers yr Ail Ryfel Byd".

Dywedodd bod Theresa May "yn fyrbwyll" trwy fynnu mai'r unig ddewis o flaen ASau yw "ei chytundeb hi, neu ddim cytundeb".

"Mae'n hanfodol bwysig i ni atal Brexit digytundeb," meddai, "Bydde hynny'n anhrefn. Rydw i mo'yn ei stopio."

"Mae angen estyniad i Erthygl 50 neu refferendwm - pleislais olaf ar ei chytundeb. Dyna'r unig ffordd rwy'n rhagweld cael cefnogaeth i'w chytundeb."

'Syllu o'r tu allan gydag arswyd'

Mae AS Ceidwadol Trefaldwyn, Glyn Davies yn hyderus y bydd aelodau'r European Research Group (ERG) - y grŵp o fewn y blaid sy'n pwyso fwyaf am Brexit caled - yn cefnogi cytundeb Mrs May yn y pendraw.

Mae'n dadlau y byddai'n "beryglus iawn" i geisio aildrafod telerau'r backstop gyda'r UE oherwydd "byddai pob gwlad unigol eisiau rhywbeth mas ohono ac yn taflu popeth i'r awyr unwaith eto".

Ond mae'n meddwl bod yna le i bwyso am fwy o sicrwydd cyfreithiol a fyddai'n bodloni'r Senedd ac aelodau'r DUP yn bendodol.

Mewn erthygl yn y Sunday Times, dywedodd arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Liz Saville Roberts bod "y byd y tu hwnt i fybl San Steffan yn syllu [ar y gwleidyddion] gydag arswyd".

Ychwanegodd: "Wrth i'r Senedd dreulio'r amser heb fod gam yn agosach at ddatrys y llanast yma, rydym yn gyson yn colli cyfleoedd i fynd i'r afael â'r materion allai fod yn gwella bywydau pobl."