Â鶹ԼÅÄ

Cyhoeddi enwebiadau Gwobrau Dewi Sant 2019

  • Cyhoeddwyd
Gwobrau Dewi SantFfynhonnell y llun, Wales News Service
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth nifer sydd wedi'u henwebu fynychu'r cyhoeddiad yng Nghaerdydd ddydd Iau

Mae Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford wedi cyhoeddi enwau'r rheiny sydd wedi cyrraedd rownd derfynol Gwobrau Dewi Sant eleni.

Mae'r gwobrau, sydd yn eu chweched flwyddyn, yn cydnabod llwyddiannau a chyfraniadau pobl ym mhob maes sy'n byw yng Nghymru neu sy'n dod o Gymru.

Ymysg y rheiny sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol mae Theatr Clwyd, prif weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol, Elfed Roberts, ac enillydd y Tour de France, Geraint Thomas.

Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni wobrwyo ar 21 Mawrth.

'Cyfraniadau arwrol'

Dywedodd Mr Drakeford: "Mae'n rhaid i mi ddweud bod yr holl dalent anhygoel sydd gan Gymru mewn cymaint o wahanol feysydd wedi creu argraff fawr arna i.

"Mae'r gwobrau hyn yn ddathliad, yn cydnabod llond dwrn o bobl anhygoel o'r cannoedd a gafodd eu henwebu.

"Mae cyfraniadau'r bobl hyn yn arwrol... mae pob person a sefydliad yma yn destun balchder i'n gwlad."

Disgrifiad o’r llun,

Bydd y seremoni wobrwyo yn cael ei chynnal yn y Cynulliad ar 21 Mawrth

Yr enwebiadau'n llawn

Dewrder

  • Andrew Niinemae - Peryglodd ei fywyd ei hun a chafodd niwed difrifol i'w goes yn ceisio atal car rhag gyrru i mewn i griw o bobl y tu allan i dafarn yng Nghaerdydd;

  • Ceri ac Aaron Saunders - Mam a mab lwyddodd i achub bachgen 10 oed oedd mewn trafferthion yn y môr ar Benrhyn Gŵyr;

  • Darran Kilay - Rhoddodd ei hun mewn sefyllfa beryglus er mwyn helpu'r heddlu pan ddaeth dyn ato ef a'i gydweithiwr yn chwifio cyllell.

Dinasyddiaeth

  • Bugeiliaid y Stryd Caerdydd - Menter gan 25 o eglwysi lleol sy'n gwirfoddoli o amgylch y brifddinas i helpu'r rhai sydd mewn angen;

  • Emma Picton-Jones - Sefydlodd elusen DPJ Foundation i helpu pobl yn y gymuned wledig sydd â phroblemau iechyd meddwl wedi i'w gŵr Daniel ladd ei hun;

  • Glenys Evans - Un o sefydlwyr Canolfan Therapi Plant Bobath Cymru, elusen sy'n rhoi therapi arbenigol i blant sy'n cael diagnosis o barlys yr ymennydd;

  • Janet Rogers MBE - Gwirfoddolwr a chynrychiolydd ar Fwrdd Ymddiriedolwyr Cymdeithas Ponthafren, elusen sy'n rhoi cymorth iechyd meddwl yng ngogledd Powys.

Diwylliant

  • Elfed Roberts - Prif weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol am 25 mlynedd nes iddo ymddeol ym mis Awst;

  • Fiona Stewart - Prif weithredwr a pherchennog gŵyl flynyddol y Dyn Gwyrdd ym Mannau Brycheiniog, ddechreuodd yn 2003;

  • Cwmni Theatr Hijinx - Cwmni perfformio sy'n defnyddio actorion ag anawsterau niwrolegol ac anableddau dysgu yn eu cynyrchiadau;

  • Theatr Clwyd - Yn y ddwy flynedd ddiwethaf mae wedi creu 23 o gynyrchiadau, gyda dros 700,000 o bobl wedi gweld eu sioeau.

Menter

  • Hilltop Honey - Sefydlwyd y cwmni sy'n gwerthu mêl organig yn 2011, ac ers hynny mae ei drosiant wedi cynyddu o £234,000 i dros £4m;

  • Jem Skelding - Prif swyddog gweithredol Naissance, cwmni sy'n gwerthu cynnyrch iechyd a harddwch organig, sydd bellach yn cyflogi 134 o bobl yn y DU a'r Almaen;

  • Steve Downey - Perchennog cwmni Hannaman Material Handling, sy'n arbenigo mewn darparu gwasanaeth trin deunyddiau.

Rhyngwladol

  • Dr Laith al-Rubaiy - Gastroenterolegydd o Gaerdydd sy'n gwirfoddoli gyda'r AMAR Foundation i ddarparu triniaethau meddygol i rai o ddinasyddion tlotaf Irac;

  • Liam Rahman - Astudiodd yng Ngholeg Yale-NUS Singapôr a Phrifysgol Yale yn yr Unol Daliaethau cyn dychwelyd i Gymru i fod yn gyfarwyddwr E-Qual Education;

  • Rhinal Patel - Rhoddodd y gorau i yrfa'n gweithio gydag enwogion i deithio'r byd a helpu pobl llai ffodus na hi ei hun, gan sefydlu elusen Pursuit of Happiness.

Arloesedd, Gwyddoniaeth a Thechnoleg

  • Canolfan Arloesi Cerebra - Elusen sy'n helpu teuluoedd â phlant sydd â chyflyrau ar yr ymennydd;

  • Go Safe Cymru - Partneriaeth rhwng y pedwar llu heddlu, y 22 awdurdod lleol a Llywodraeth Cymru i wneud ffyrdd Cymru yn fwy diogel;

  • Ian Bond - Dyn busnes wedi ymddeol o Aberdâr, sydd wedi defnyddio ei gyflwr cronig i greu busnes sy'n cynnig systemau iechyd digidol.

Chwaraeon

  • Geraint Thomas OBE - Llwyddodd i fod y Cymro cyntaf i ennill ras seiclo eiconig y Tour de France yn haf 2018;

  • Jess Fishlock MBE - Aelod o dîm pêl-droed merched Cymru ers 2006 a'r chwaraewr cyntaf i ennill 100 cap i'r tîm cenedlaethol;

  • Menna Fitzpatrick MBE - Â hithau ond yn 19 oed, hi yw athletwr mwyaf llwyddiannus Prydain erioed yng Ngemau Paralympaidd y Gaeaf.

Person ifanc

  • Bethan Owen - Agorodd y disgybl chweched dosbarth glwb karate di-elw i ofalwyr ifanc, wedi i hithau helpu gofalu am ei Mam sy'n dioddef o epilepsi;

  • Hannah Adams - Ymgyrchydd gwrth-fwlio 17 oed o Gaerdydd sy'n defnyddio ei phrofiad ei hun o gael ei bwlio i helpu eraill;

  • Lowri Hawkins - Wedi bod yn anhygoel o ddewr yn siarad yn gyhoeddus am ddioddef cam-fanteisio rhywiol pan yn blentyn.