Pitching In wedi 'colli cyfle?'

Nos Fawrth 13 Chwefror, cyrhaeddodd gyfres gomedi ddrama newydd Â鶹ԼÅÄ Cymru, Pitching In, ein sgriniau.

Roedd llawer o edrych ymlaen wedi bod am y gyfres, sydd wedi cael ei lleoli ar faes carafanau ar Ynys Môn, gyda chymhariaethau'n cael eu gwneud â chyfres lwyddiannus arall wedi ei lleoli yng Nghymru - Gavin & Stacey. Mae dau o sêr y gyfres honno hefyd yn actio yn Pitching In - Larry Lamb a Melanie Walters - ac roedd disgwyliadau pobl yn uchel.

Ffynhonnell y llun, James Clarke

Disgrifiad o'r llun, Larry Lamb fel Frank Hardcastle yn 'Pitching In'

Fodd bynnag, er fod ambell i neges gadarnhaol wedi bod ar y cyfryngau cymdeithasol yn dilyn y bennod gyntaf, roedd yr ymateb, ar y cyfan, yn negyddol, gyda nifer o'r farn nad oedd yn cyrraedd y safon.

I osgoi neges Twitter, 1
Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen Twitter a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys

Diwedd neges Twitter, 1

Siaradodd Yr Athro Ruth McElroy o adran Diwydiannau Creadigol Prifysgol De Cymru am y gyfres ar Taro'r Post, gan ei disgrifio fel cyfle a gafodd ei golli, a'r bennod gyntaf yn "wirioneddol ofnadwy".

"O'n i'n teimlo'i fod yn raglen gwarthus. O'n i isho gweld rhywbeth gymaint gwell gan Â鶹ԼÅÄ Cymru. Yn amlwg, mae 'na raglenni gwych wedi bod ar ein sgriniau gan Â鶹ԼÅÄ Cymru, fel Keeping Faith - ond o'n i jyst yn synnu bod yr ansawdd yma yn gallu bod ar sgrin.

"Dwi'n deall fod strategaeth Â鶹ԼÅÄ Cymru wedi datblygu'n dda dros y blynyddoedd diwetha' - mae Â鶹ԼÅÄ Cymru wedi llwyddo i ennill mwy o arian i fuddsoddi i ariannu rhaglenni o Gymru. Ond yn anffodus, os mai dyma'r math o allbwn, Duw a ŵyr be' allwn ni ei 'neud. Mae'n rhaid i ni gael rhaglenni gwell."

Ac nid oedd yr awdur Bethan Gwanas wedi mwynhau'r arlwy 'chwaith...

I osgoi neges Twitter, 2
Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen Twitter a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys

Diwedd neges Twitter, 2

Ble mae'r gogleddwyr?

Un o'r cwynion mwyaf am y rhaglen yw nad oes cymeriadau sy'n siarad ag acen ogleddol nac yn siarad Cymraeg, er mai ar Ynys Môn mae'r gyfres wedi ei lleoli a'i ffilmio:

I osgoi neges Twitter, 3
Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen Twitter a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys

Diwedd neges Twitter, 3

Roedd Ruth McElroy hefyd wedi ei "siomi" gyda'r acenion, ac nad oedd y rhaglen yn "teimlo'n gredadwy i Ynys Môn a Gwynedd".

Galwodd hyn yn "gastio diog".

Roedd hyn hefyd yn rhywbeth roedd Huw Marshall yn cwyno amdano ar raglen Taro'r Post.

"Dychmygwch fod rhywun yn gwneud cyfres yn Lerpwl a bod 'na mond un scowsar a bod gweddill y cast yn dod o Fanceinion? Mae lleoli rhywbeth fel hwn yn Sir Fôn, dim gair o Gymraeg yn y peth, un actores o Ogledd Cymru yn y cast i gyd, yn warthus."

Diolch am Star Trek am gynnwys y Gymraeg mewn rhaglen ddiweddar, oedd gwaedd Bailey:

I osgoi neges Twitter, 4
Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen Twitter a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys

Diwedd neges Twitter, 4

"Darlun gwbl ffals" o Gymru

Soniodd Huw hefyd am y buddsoddiad sydd wedi bod gan y Â鶹ԼÅÄ yn ddiweddar o £85m i gynhyrchu mwy o raglenni Cymreig eu naws, ond nad oedd yn credu fod yn gyfres yma wedi taro'r nod.

"Roedd ymchwil yn dangos fod pobl Cymru eisiau gweld mwy o gynrychiolaeth gan Gymru ar y rhwydwaith.

"Os mai dyna oedd y bwriad, ein bod ni'n cael yr arian yma i ddangos Cymru i weddill Prydain, maen nhw am gael darlun gwbl ffals o be' ydi bywyd yng Nghymru."

Roedd eraill hefyd yn credu nad oedd y gyfres yn adlewyrchiad deg o Gymru, ac yn llawn stereoteipiau:

I osgoi neges Twitter, 5
Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen Twitter a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys

Diwedd neges Twitter, 5

Ond Garmon Ceiro sydd â'r gair olaf am iddo brofi profiad gwbl ddieithr iddo tra'n gwylio'r rhaglen. Mi ddaw eto haul ar fryn!

I osgoi neges Twitter, 6
Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen Twitter a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys

Diwedd neges Twitter, 6