Galwadau am statws swyddogol i fynyddoedd y Cambria

Disgrifiad o'r llun, Cronfa ddŵr Nant y Moch ger Ponterwyd
  • Awdur, Mari Grug
  • Swydd, Newyddion Â鶹ԼÅÄ Cymru

Byddai statws swyddogol tebyg i'r Parciau Cenedlaethol o fudd i fynyddoedd y Cambria, medd busnesau a mentrau yng nghanolbarth Cymru.

Daw'r galwadau wrth i'r mynyddoedd, sydd yn ymestyn ar draws Powys, Ceredigion a Sir Gâr, gael eu mapio'n gywir am y tro cyntaf.

Mae Menter Mynyddoedd Cambrian - sy'n cefnogi datblygiadau yng nghymunedau'r ardal - yn dweud bod denu twristiaid i ganolbarth Cymru'n gallu bod yn anodd, a bod pobl yn fwy tebygol o ymweld â'r parciau cenedlaethol cyfagos.

Mae parciau Eryri, Bannau Brycheiniog a Phenfro gwerth dros hanner biliwn o bunnau i'r economi yng Nghymru bob blwyddyn.

Disgrifiad o'r llun, Dafydd Wyn Morgan: "Ni'n teimlo nawr bod 'na gyfle i gael rhyw fath o barc newydd sbon yma yn y canolbarth."

Erbyn hyn, mae Dafydd Wyn Morgan o Fenter Mynyddoedd Cambrian, yn dweud bod angen "i'r ffocws symud i ganolbarth Cymru".

Dywedodd: "Mae'r fenter yn cydweithredu gyda Phowys, Ceredigion a Sir Gâr yn y gobaith y gallwn ni ddenu mwy o ymwybyddiaeth o'r ardal yma o Gymru, ac y bydd bobl yn prynu i mewn i'r syniad yma bod rhan ddiddorol ac arbennig o Gymru yn bodoli yma yn Mynyddoedd Cambria."

"Dwi'n teimlo bod y parciau cenedlaethol wedi cael sylw ers cymaint o flynyddoedd... ni'n teimlo nawr bod 'na gyfle i gael rhyw fath o barc newydd sbon yma yn y canolbarth.

Disgrifiad o'r llun, Mae'r mynyddoedd wedi cael eu mapio'n gywir am y tro cyntaf

"Mae'n bwysig bod y mynyddoedd yma yn cael y sylw er mwyn denu pobl i ymweld â'r ardal."

Fe gafodd cais aflwyddiannus i greu pedwerydd parc cenedlaethol yn ardal mynyddoedd y Cambria ei wneud yn 1965.

Bryd hynny, cafwyd gwrthwynebiad cryf gan ffermwyr ac awdurdodau lleol yr ardal.

"Dwi ddim yn gweld ni'n cystadlu gyda'r parciau cenedlaethol," meddai Mr Morgan.

"Ond dwi'n credu y byddai rhyw fath o statws swyddogol i fynyddoedd y Cambria, a'u wneud mewn ffordd sydd o fudd i'r bobl a'r ardal leol, o fudd mawr i ganolbarth Cymru."

Yn y Senedd fis diwethaf, bu cynrychiolwyr o gynghorau sir Ceredigion a Phowys yn trafod hyrwyddo'r cyfleoedd economaidd ar draws y rhanbarth.

Roedden nhw hefyd yn tanlinellu'r angen am fuddsoddiad cyhoeddus ynghyd â bargen twf ar gyfer canolbarth Cymru.

Disgrifiad o'r llun, Mae Anwen Elias o gwmni seiclo Crys Melyn wedi cyfrannu at gynhyrchu map newydd o'r mynyddoedd

Mae 86 o fusnesau ac 11 cyngor tref a chymuned hefyd wedi buddsoddi arian mewn cynhyrchu map newydd o fynyddoedd y Cambria, gyda'r gobaith y bydd mwy yn ymweld â'r ardal.

Un o'r rheiny sydd wedi buddsoddi yw Anwen Elias o gwmni seiclo Crys Melyn, sy'n dweud bod eu cwsmeriaid "yn cyrraedd y canolbarth ar hap a damwain".

"Mae'r brand yn bwysig iawn," meddai. "Mae'n cyfleu'r syniad bod mynyddoedd y Cambria yn wahanol i'r hyn sy'n cael ei gynnig yn y parciau cenedlaethol.

"Y peth pwysig i ni yma ydy bod y brand yn cyfleu'r holl bethau sydd i wneud yn yr awyr agored, o antur ac o'r croeso cynnes sydd i'w gael ar draws mynyddoedd y Cambria."