Â鶹ԼÅÄ

Cytundeb brys yn sicrhau clinigau yn ardal Llandysul

  • Cyhoeddwyd
MeddygfaFfynhonnell y llun, Google

Mae bwrdd iechyd wedi dod i gytundeb brys er mwyn ailagor adeilad cyn-feddygfa yng Ngheredigion a chaniatáu i fydwragedd a nyrsys cymunedol barhau i gynnal clinigau yno.

Roedd yna bryder bod gweithwyr iechyd wedi bod yn defnyddio'u ceir ar gyfer cyfarpar meddygol oherwydd oedi ynglŷn â sicrhau les ar gyfer adeilad Meddygfa Teifi, Llandysul.

Dywed Bwrdd Iechyd Hywel Dda y bydd clinigau nawr yn cael eu cynnal yn yr adeilad yr wythnos nesaf.

Dywedodd Peter Skitt, un o gyfarwyddwyr Hywel Dda fod yr "allweddi yn barod i gael eu trosglwyddo a byddaf yn cwrdd â rheolwyr gwasanaethau yn yr adeilad ddydd Llun."

Daeth ei sylwadau yn ystod cyfarfod o Gyngor Iechyd Cymunedol Hywel Dda yn Aberarth, ddydd Iau.

Cyn y cyfarfod roedd pryder yn lleol fod staff, gyn gynnwys nyrsys cymunedol, wedi bod yn defnyddio eu ceir ar gyfer offer meddygol ers diwedd Ionawr, a'u bod heb fynediad i gofnodion.

Dywed y bwrdd iechyd fod staff wedi bod derbyn pob cefnogaeth.

Disgrifiad o’r llun,

Bydd clinigau yn ailddechrau yn yr hen feddygfa yr wythnos nesaf

Dywedodd Mr Skitt fod staff wedi bod yn gweithio "mewn amgylchiadau anodd iawn" am bedwar i bum diwrnod, ond fe bwysleisiodd bod y sefyllfa ond wedi effeithio ar nifer fach iawn o gleifion.

Roedd apwyntiadau wedi cael eu trefnu yng nghartrefi cleifion, meddai, ac roedd rhai apwyntiadau wedi cael eu haildrefnu.

Yn ddiweddar cafodd neges ei chyhoeddi ar dudalen Facebook grŵp cymunedol lleol yn dweud fod "adeilad gwbl addas yn parhau yn wag a'i ddrysau wedi cau".

Dywedodd y cynghorydd sir lleol Keith Evans bod y gweithwyr iechyd "angen swyddfa, ac rydym yn gwybod am y sefyllfa yma am dri i bedwar mis.

"Byddwn yn meddwl y byddant wedi sicrhau fod pethau mewn trefn ar gyfer sicrhau safonau gofal iechyd yn yr ardal."

Ychwanegodd y bwrdd iechyd: "Mae yna oedi bach wedi bod wrth gwblhau trefniadau ar gyfer les adeilad Teifi ac ein nod yw sicrhau fod gwasanaethau yn parhau i gael eu darparu yn lleol ar gyfer pobl ardal Llandysul.

"Rydym yn cydnabod yn y cyfamser fod rhai o'n staff yn gweithio mewn amgylchiadau anodd ac rydym yn cynorthwyo staff sy'n cael eu heffeithio, ac yn rhoi gwybod iddynt am y datblygiadau."

Cafodd cytundeb trwydded brys i ddefnyddio'r cyn feddygfa ei arwyddo ddydd Mercher, a bydd yn parhau mewn grym am dri mis tra bod trafodaethau'n parhau i sicrahu les hirdymor.