Â鶹ԼÅÄ

ASau o Gymru yn galw ar May i wrthod gadael heb gytundeb

  • Cyhoeddwyd
Theresa MayFfynhonnell y llun, EPA

Mae 21 o Aelodau Seneddol o Gymru ymhlith dros 200 sydd wedi arwyddo llythyr yn annog Theresa May i ddileu'r posibilrwydd o Brexit heb gytundeb.

Dywedodd y gwleidyddion o'r blaid Lafur a Phlaid Cymru eu bod yn bryderus am sefyllfa o'r fath ar y diwydiant cynhyrchu ac yn ofni y gall swyddi gael eu colli.

Yn y llythyr gan grŵp trawsbleidiol o ASau, maen nhw'n rhybuddio y byddai gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb yn achosi "niwed economaidd diangen".

Fe fydd pleidlais ar gytundeb Brexit Mrs May yn cael ei chynnal ar 15 Ionawr yn NhÅ·'r Cyffredin.

Ar hyn o bryd, fe fydd y Deyrnas Unedig yn gadael yr Undeb Ewropeaidd ar 29 Mawrth 2019 - a hynny os ydy'r cytundeb Brexit yn cael ei basio gan Aelodau Seneddol neu beidio.

Mae'r holl ASau sydd wedi arwyddo'r llythyr wedi cael gwahoddiad gan y Prif Weinidog i'w chyfarfod yn Downing Street ddydd Mawrth.

Yn y llythyr i Mrs May, mae'r grŵp yn dweud: "Fel grŵp trawsbleidiol o Aelodau Seneddol, arweinwyr busnes a chynrychiolwyr, rydym wedi ein huno yn ein penderfyniad na ddylai'r Deyrnas Unedig adael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb.

"Rydym yn annog y llywodraeth i gytuno i fecanwaith fyddai'n sicrhau na fyddai Brexit heb gytundeb yn gallu digwydd ac yn hyderus y byddai hwn yn llwybr y byddai'r Senedd yn ei gefnogi."