Brexit: May yn 'annhebygol iawn' o ennill y bleidlais

Mae'r Prif Weinidog Theresa May yn "debygol" o golli'r bleidlais ar ei chytundeb Brexit, yn ôl un Aelod Seneddol Cymreig.

Dyw Glyn Davies, AS Maldwyn, ddim yn credu y bydd Ms May yn gallu perswadio aelodau seneddol yn NhÅ·'r Cyffredin i gefnogi'r cynllun.

Mae'r prif weinidog wedi galw ar ASau i'w chefnogi, gan ddweud mai dyma'r unig ffordd i anrhydeddu canlyniad y refferendwm yn 2016 ac i warchod yr economi.

Mae disgwyl i ASau bleidleisio ar gytundeb Ms May yr wythnos nesaf.

Bydd y Deyrnas Unedig yn gadael yr Undeb Ewropeaidd ar 29 Mawrth - os oes cytundeb mewn lle ai peidio.

Roedd pleidlais Tŷ'r Cyffredin wedi'i drefnu i'w gynnal ym mis Rhagfyr, ond fe wnaeth Mrs May ei ohirio ar ôl iddo ddod yn amlwg na fyddai digon o AS yn pleidleisio dros o'i phlaid.

Bydd y ddadl ar y fargen yn ailgychwyn ddydd Mercher, gyda'r disgwyl bellach i gynnal y bleidlais ar 15 Ionawr.

'Gwneud fel yr awgrymodd Corbyn'

Dywedodd Mr Davies wrth raglen Sunday Supplement Â鶹ԼÅÄ Radio Wales nad oedd hi'n amhosib i Ms May ennill, ond bod hynny'n "annhebygol iawn".

"Mae hi wedi bod yn gweithio'n galed iawn i geisio newid ein meddyliau, a bydd gennym ni'r bleidlais yng nghanol mis Ionawr i weld ble rydym yn mynd," meddai.

"Fy asesiad fy hun yw ei bod hi'n debygol o golli'r bleidlais honno, ac efallai y bydd hi'n dda wedyn i wneud fel yr awgrymodd [arweinydd Llafur] Jeremy Corbyn sef dychwelyd i'r UE i ofyn am newidiadau i hynny."