Â鶹ԼÅÄ

Podiau cysgu yn 'arf ddefnyddiol' i daclo digartrefedd

  • Cyhoeddwyd
Pod
Disgrifiad o’r llun,

Mae Llywodraeth Cymru wedi gwrthod rhoi grant i'r prosiect

Gallai podiau arbennig ar gyfer pobl ddigartref fod yn "arf ddefnyddiol" i roi cymorth i bobl yn cysgu ar y strydoedd, yn ôl un elusen ddigartrefedd.

Mae'r podiau yng Nghasnewydd yn darparu gofod symudol ac wedi'i ynysu i unigolion, gyda drws sydd angen cod i'w agor.

Dywedodd elusen The Wallich eu bod yn awyddus i weld mwy ohonynt, ond mae Llywodraeth Cymru wedi gwrthod cais y cynllun am grant.

Mae'r llywodraeth wedi dweud eu bod am fuddsoddi dros £30m i daclo digartrefedd dros ddwy flynedd.

Disgrifiad o’r llun,

Rhannodd Wayne Evelyn ei brofiad o fod yn ddigartref, gan ddweud y byddai wedi elwa o allu lletya mewn pod

Bu Wayne Evelyn, 39 oed, yn ddigartref ar ôl i'w berthynas chwalu 10 mlynedd yn ôl.

"Does 'na ddim diwedd i'r math o lefydd nes i gysgu," meddai.

"Roeddwn yn aros ar ddihun yn crwydro'r strydoedd. Roedd gyda fi ofn mynd i hostelau am fod pethau'n cael eu dwyn weithiau, a dydych chi ddim eisiau colli'r hyn sydd gennych - pan rydych yn ddigartref, mae'r hyn sydd gennych yn meddwl mwy fyth i chi."

Dywedodd Mr Evelyn ei fod wedi llwyddo i fynd i'w waith mewn siop fara, ond roedd y straen o fod yn ddigartref wedi arwain at wrthdaro rhyngddo ef a'r person roedd yn aros gyda nhw, ac fe gafodd ei garcharu wedi iddo gyfaddef i achosi niwed corfforol difrifol.

"Yr unig reswm ddigwyddodd e yw am fy mod i'n ddigartref - pe na bawn i'n ddigartref ni fyddwn wedi mynd i'r carchar."

'Teimlo'n ddiogel'

Mae Mr Evelyn hefyd wedi ei chael hi'n anodd delio gyda'i brofiad am ei fod yn dueddol o gael pyliau o orbryder, ac mae e bellach ar feddyginiaeth i reoli hynny.

Ychwanegodd y byddai'n sicr wedi defnyddio podiau i'r digartref petai'r fath beth yn bodoli ar y pryd.

"Os ydych mewn lle ble gallwch agor y drws a chau'r drws, rydych yn teimlo'n ddiogel."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r podiau wedi cael eu gwneud o bren a gwydr ffeibr, ac yn cynnwys gwely, toiled a lle i wefru ffôn symudol

Mae prosiect Amazing Grace Spaces yn chwilio am grantiau pellach, a dywedodd Stuart Johnson iddo gael ei ysbrydoli ar ôl gofyn i bobl ddigartref am eu hanghenion.

"Ein gobaith yw gweld pobl yn aros dros nos - i gyrraedd pobl sy'n ei chael hi'n anodd cymdeithasu, am eu bod wedi bod ar y strydoedd cyhyd," meddai.

"Gyda hyn, am fod angen cod arnynt i agor y drws, maen nhw'n gallu dychwelyd - maen nhw'n gallu ymddiried ynddoch chi, ac rydych chi'n gallu ymddiried ynddyn nhw a'u helpu nhw a gweld sut i symud ymlaen."

Camsyniadau am ddigartrefedd

Dywedodd Lindsay Cordery-Bruce, prif weithredwr The Wallich bod y podiau "yn sicr yn arf defnyddiol", gan ychwanegu y byddai'r elusen yn "croesawu" mwy ohonynt.

"Ond mae'n rhaid i'r gefnogaeth fod yn ei le er mwyn osgoi creu lle arall i bobl ddigartref deimlo wedi'u cau allan," meddai.

"Dwi'n meddwl bod 'na gamsyniadau am ddigartrefedd, gyda phobl yn meddwl ei fod yn ymwneud ag adeiladau, ond mewn gwirionedd, rydym yn siarad am bobl yn cael eu cau allan.

"Mae'r dystiolaeth i brofi hyn yn glir, mae'r cwbl am sut rydym yn ymwneud â pherson, yn hytrach na pha fath o ofod rydym yn cynnig iddynt."

"Sut rydym yn cyfarfod pobl yn eu hamgylchfyd eu hunain lle maen nhw'n gyfforddus, sut rydym yn mynd â'r gwasanaethau iddynt yw'r allwedd i ddatrys digartrefedd, yn hytrach na disgwyl i bobl ddefnyddio systemau cymhleth."

£1.34m ychwanegol

Dywedodd Llywodraeth Cymru: "Rydym am barhau i weithio gyda Chyngor Dinas Casnewydd a phartneriaid eraill i flaenoriaethu'r prosiectau mwyaf addas ac effeithiol i gefnogi pobl i symud oddi ar y strydoedd ac i gartrefi hirdymor."

Ddydd Mercher, cyhoeddodd y llywodraeth eu bod am roi £1.34m ychwanegol i daclo digartrefedd dros y gaeaf, sy'n cynnwys £25,000 i bob awdurdod lleol a mwy o gymorth i Gaerdydd, Wrecsam, Casnewydd ac Abertawe, gan eu bod yn bedwar ardal sydd gyda'r problemau digartrefedd mwyaf cymhleth.