Â鶹ԼÅÄ

Ateb y Galw: Y berfformwraig Elain Llwyd

  • Cyhoeddwyd
Elain LlwydFfynhonnell y llun, Elain Llwyd

Y berfformwraig Elain Llwyd sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma wedi iddi gael ei henwebu gan .

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Dwi wir yn meddwl mai'r atgof cyntaf fwyaf clir sydd gen i ydi y diwrnod wnaeth Ffion fy chwaer fach gyrraedd. Mi o'n i bron yn bedair oed, a dwi'n cofio chwarae fyny'r grisiau yn nhÅ· Nain a Taid ym Mhenygroes yn disgwyl i gael mynd i'r ysbyty i gyfarfod fy chwaer fach newydd. Dwi'n cofio rhedeg i lawr y coridor yn yr Ysbyty at Dad cyn cael mynd i mewn i weld Mam a Ffiff.

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?

Leonardo DiCaprio. Hollol obsessed efo fo... dwi dal yn obsessed efo fo a d'eud y gwir!

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Mae 'na lot i ddewis ohonyn nhw! Un sy'n sefyll allan ydi pan wnaeth siwt y cymeriad dwi'n chwarae sy'n gwisgo lot o binc ac aur rwygo yn y pen ôl yn ystod sioe Cyw mewn rhyw Eisteddfod!

Disgrifiad o’r llun,

O na! Druan o Dona (ac Elain!)

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?

Yn dal i fyny ar benodau Gwesty Aduniad ar S4C! Dwi wedi beichio crio ar bob pennod.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Dwi'n tueddu i feddwl fod gen i fwy o amser na s'gen i mewn gwirionedd, felly dwi braidd yn uchelgeisiol wrth feddwl mod i'n medru cael nap, bwyd, cawod a newid yn barod i fynd i rhywle o fewn awr.

Weithiau - dwi'n llwyddo i neud bob dim, ond yn aml... mae o'n amhosib. Ma' hyn wedi dod yn gymaint o beth nes ei fod yn cael ei adnabod fel Elain Time gan fy nheulu a Rhodri fy nghariad.

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Pen Llŷn. I fod yn fanwl, Porth Ferin yn Rhosirwaun, cartref teulu Nain sy'n edrych allan am y môr ac yn teimlo fel pen draw'r byd.

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Roedd canu lleisiau cefndir i Edward H a'r Band yn eu gig olaf 'offishal' yn Eisteddfod Genedlaethol Dinbych yn 2013 yn noson anhygoel. Uchafbwynt ac anrhydedd.

Disgrifiad o’r llun,

Cleif Harpwood a Dewi Pws yn barod i fynd i berfformio ar lwyfan y maes Eisteddfod 2013 gyda gweddill Edward H Dafis

Disgrifia dy hun mewn tri gair

Chwareus. Gweithgar. Meddylgar.

Beth yw dy hoff lyfr neu ffilm?

How To Be a Woman gan Caitlin Moran. Llyfr ffeminist pwysig ein cyfnod ni.

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?

Glen - brawd fy nhad. Dwi'n gwybod y bysa ni'n ffrindia mawr tasa fo dal yma efo ni.

Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Mi wnes i ddysgu i chwarae'r feiolin a'r clarinet yn yr ysgol - ond o'n i'n WARTHUS yn eu chwarae nhw!

O archif Ateb y Galw:

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Ei dreulio efo'r bobl dwi'n garu yn mwydro ac yn yfed jin!

Beth yw dy hoff gân a pham?

Yma Wyf Inna' I Fod gan Geraint Løvgreen. Mae hi'n gân sy'n adlewyrchu pa mor wirioneddol arbennig ydi Caernarfon i fi.

Disgrifiad o’r llun,

Dyma Geraint Løvgreen, a gyfansoddodd yr alaw, a Meirion MacIntyre Huws a ysgrifennodd y geiriau i Yma Wyf Inna' I Fod, yn edrych ar Gaernarfon, y man a ysbrydolodd hoff gân Elain

Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?

Dwi'n licio bwyd... lot, felly mae hwn yn gwestiwn anodd! Os oes rhaid dewis, rhywbeth fel caws gafr a betys i ddechrau neu scallops, rhyw bysgodyn neis fel hadoc fel prif gwrs a crème brûlée Nain Penygroes yn bwdin.

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Carole King - meddyliwch sut fysa'n teimlo i allu ysgrifennu caneuon fel 'na!

Pwy sydd yn Ateb y Galw yr wythnos nesaf?

Mali Tudno Jones