Byw bywyd coleg gydag alergedd

Mae nifer o bobl ifanc Cymru yn edrych ymlaen at adael cartre a mynd i'r coleg am y tro cynta'. Ond i rai mae 'na gyfrifoldebau ychwanegol yn dod law yn llaw gyda rhyddid ac annibyniaeth - delio gydag alergeddau.

Mae Meleri Grug Williams ar ei hail flwyddyn yn astudio Newyddiaduraeth ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae ganddi hi alergedd at gnau ers pan roedd hi'n wyth oed.

Ffynhonnell y llun, Meleri Williams

Disgrifiad o'r llun, Fe allai'r chwistrelliadau adrenalin achub bywyd Meleri Williams

Wedi treulio blynyddoedd yng ngofal teulu a ffrindiau sydd wedi hen gyfarwyddo â fy anghenion, roedd y syniad o orfod esbonio'r cyfan o'r newydd braidd yn frawychus. Ond, diolch byth, gwnes ffrindiau arbennig sydd bellach yn llwyr ymwybodol o'm cyflwr.

Ydy, mae'n hawdd rheoli bywyd o fewn fy nghylch bach fy hun, ond gall byw mewn dinas lle mae cymaint o bobl yn byw bywyd brysiog godi ychydig o fraw. Ond, fel un sydd wrth fy modd â bwyd, amhosib yw cadw draw oddi wrth fwrlwm bwytai a bariau'r brifddinas!

Mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd yn cydnabod bod angen i fwytai fod yn ymwybodol o anghenion myfyrwyr sydd ag alergeddau. Cadeirydd y corff ydy Heather Hancock:

"Mae gan fusnesau bwyd ran bwysig i'w chwarae wrth wneud i'r grŵp oedran hwn deimlo'n fwy hyderus wrth fwyta allan. Mae'n rhaid iddynt ddarparu gwybodaeth gywir am alergenau bob tro."

Er hynny dydy pawb ddim yn teimlo'n ddigon hyderus. bod 60% o'r bobl ifanc sydd ag alergedd neu anoddefiad bwyd gafodd eu holi wedi osgoi bwyta allan yn ystod y chwe mis diwethaf oherwydd eu cyflwr.

Ffynhonnell y llun, Richard Drayton/Geograph

Disgrifiad o'r llun, Mae angen i Meleri fod yn ofalus wrth fwyta allan gyda ffrindiau

Triniaeth frys

Yn yr achosion mwyaf difrifol, gall adwaith alergaidd arwain at sioc anaffylactig. Mae anaffylacsis yn argyfwng meddygol a byddai triniaeth frys yn angenrheidiol.

Rwy'n cario tabledi gwrth-histamin a chwistrelliadau adrenalin rhag ofn y i mi ddioddef adwaith alergaidd. Gallai hyn ddigwydd pe bawn i'n bwyta, arogli neu'n cyffwrdd â chnau. Mae fy ffrindiau i gyd yn ymwybodol o sut i ddefnyddio'r chwistrelliad pe byddai angen, ac mae hyn yn codi llawer o'r baich.

Mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd yn ceisio hwyluso'r sefyllfa hefyd trwy Y nod ydy rhoi'r grym i bobl ifanc holi busnesau bwyd am alergenau wrth fwyta allan, er mwyn iddynt allu gwneud dewisiadau diogel.

Mae'r ymgyrch yn dilyn y canllaw syml yma:

Holi - Cofiwch holi am alergenau

Ofn - Peidiwch â bod ofn holi

Llais - Cofiwch roi gwybod

Iach - Byddwch yn iach a diogel

Ffynhonnell y llun, Asiantaeth Safonau Bwyd

Disgrifiad o'r llun, Mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd yn awyddus i awn i godi ymwybyddiaeth o alergeddau

Hefyd o ddiddordeb...

'Y profiad gwaethaf'

Mae gan Dafydd Llewelyn, myfyriwr arall sy'n ei drydedd flwyddyn ym Mhrifysgol Caerdydd, alergeddau difrifol at gnau ac wyau. Mae'n disgrifio adwaith anaffylacsis fel un o'r profiadau gwaethaf iddo erioed ei gael. Mae'n dweud bod hi'n bwysig bod rhagor o bobl yn gwybod beth i'w wneud mewn sefyllfa o'r fath:

"Does 'na ddim llawer o bobl yn gwybod sut i ddefnyddio EpiPen neu Emerade Pen a sut i ymateb mewn sefyllfa o sioc anaffylacsis. Mae'r ymgyrch Hawdd Holi yn hanfodol bwysig i godi ymwybyddiaeth ymhlith pobl ifanc.

"I fi yn bersonol, bod yn wyliadwrus yw'r peth pwysicaf. Rwy'n darllen cynhwysion bwydydd wrth brynu bwyd, yn dangos cardiau alergedd mewn ieithoedd gwahanol wrth deithio dramor ac yn holi wrth fwyta allan. Mae'r cyfan fel ail natur i mi bellach."

Felly, os ydych chi'n dioddef o alergedd, peidiwch byth â theimlo cywilydd. Os ydych chi'n adnabod rhywun sy'n dioddef, cymerwch ddiddordeb yn y pwnc ac anogwch y sgwrs - fe allai achub bywyd!