Fideo a sgwrs: Lleuwen Steffan a'r emynau sy'n ei hysbrydoli
- Cyhoeddwyd
"Sori, 'dw i'm yn mynegi yn iawn...'"
Dyna un o'r pethau mae Lleuwen Steffan yn ei ddweud fwy nag unwaith wrth drafod ei halbwm ddiweddara' gyda Â鶹ԼÅÄ Cymru Fyw a rhannu fideo o'r gân 'Caerdydd'.
Ers naw mlynedd Llydaw ydy 'adra' i'r gantores Lleuwen Steffan. Ond dydy'r helynt gwleidyddol mae Cymru'n rhan ohono ar hyn o bryd ddim wedi mynd heibio iddi.
Mae'r ansicrwydd a'r eithafiaeth barn mae hi'n ei weld yn y penawdau newyddion wedi diferu i isymwybod ei record newydd, Gwn Glân Beibl Budr.
Ar yr albwm mae'r gantores o Rhiwlas ger Bangor wedi troi at alawon a geiriau emynau 300 mlwydd oed i'w helpu i fynegi ei hun wrth geisio gwneud synnwyr o bryderon cymdeithas yn y byd sydd ohoni.
Mae wedi troi at yr hen emynau oherwydd "y cysylltiad rhwng cerddoriaeth ac ysbrydolrwydd, a chysylltiad ysbrydolrwydd gyda gwreiddiau," meddai.
"Mi ddywedodd Williams Pantycelyn 300 mlynedd yn ôl 'Pam y caiff bwystfilod rheibus dorri'r egin mân i lawr? Pam caiff blodau peraidd ieuainc fethu gan y sychder mawr?'
"Mae'r emynau 'dw i wedi eu dewis yr un mor berthnasol ag oedden nhw pan gawson nhw eu sgwennu.
'Sychder ysbrydol'
"'Dan ni'n prysuro i drïo gwneud pres, yn prynu petha' i'w taflu ac yn meddwi ar bob math o betha' i lenwi rhyw ofod diwaelod.
"Ond dydi o byth yn ddigon. Efallai mai o'r sychder ysbrydol hwnnw y daw'r newid yn y pendraw. Dwn i'm.
"Dydi'r system wleidyddol bresennol yn amlwg ddim yn ysbrydoli'r newid 'dan ni'n dyheu amdano.
"Mae'n system anonest ac anghytbwys. Mae ein hawydd i gysylltu yn ddyfnach na'r system 'dan ni ynddi. Rhyw feddyliau fel hyn sydd yn y record gan amlaf.
"Mae Emynyddiaeth Cymru yn hynod, hynod ddiddorol. Mae nhw'n dod o'r enaid a mae pob emosiwn dynol ynddyn nhw. Fydda i'n gwrando ar gymanfeydd wrth fynd yn y car, ac yn mwynhau darllen Caneuon Ffydd.
"Ges i'r pleser o fynd i Fferm Pantycelyn yn ddiweddar a chael croeso arbennig gan Cynthia a Cecil Williams. Cecil yw chweched disgynnydd Williams Pantycelyn. Ges i ddiolch, yn fy ffordd, i William Williams am ei eiriau."
Plethu emynau efo caneuon gwreiddiol
Mae'r albwm newydd yn cynnwys cymysgedd o draciau gwreiddiol gan Lleuwen, dwy emyn ac un gân sy'n gymysgedd o'r hen a'r newydd.
"Doeddwn i ddim yn siŵr a oeddwn i'n mynd i wneud record o fy nghaneuon fy hun, 'ta jyst record o emynau," meddai.
"Dw i'n cael buzz allan o'r profiad o ganu emynau, yn enwedig yr hen rai Cymraeg. Y band wnaeth fy narbwyllo i recordio caneuon fy hun.
"Mae 'Pam?' yn gymysgedd o ryw dri neu bedwar o emynau Pantycelyn.
"Dw i wedi cadw alaw 'Henryd' fel cytgan, ac wedi sgwennu tiwn fy hun i'r penillion. Fel 'na oedden nhw'n ei wneud ers talwm. Doedd yr emynau ddim fel 'da ni'n eu 'nabod nhw heddiw. Oedden nhw fel caneuon gwerin yn hynny o beth - pennill fan hyn a fan draw ar wahanol bamffledi oedd cael eu rhannu allan.
"Treiglad amser sydd wedi gosod y penillion yn y drefn mae nhw ynddyn nhw heddiw. Ond dydyn nhw ddim o anghenraid yn y drefn yna."
Pam 'Gwn glân Beibl budr'?
Mae teitl yr albwm wedi ei ysbrydoli gan lyfr o'r un enw gan Harri Parri am John Williams, Brynsiencyn, y pregethwr a recriwtiodd gynifer o ddynion ifanc Cymru i'r fyddin yn y Rhyfel Mawr.
"Dywediad tad John Williams Brynsiencyn oedd 'gwn glân a Beibl budr," meddai Lleuwen.
"Gwn glân er mwyn cael anelu'n dda wrth hela, a Beibl budr o'i ddefnyddio fo'n aml.
"Gan ein bod ni mewn cyfnod eithafol eto, mae'r ymadrodd yn taro deuddeg. Roedd 'na ddau begwn i John Williams Brynsiencyn, ac mae 'na begynau go eithafol o fewn y record hefyd."
Traffig ar fy ffôn, traffig ar y lôn
Cân am epidemig unigrwydd ydy 'Caerdydd'.
"Unigrwydd un ymhlith miloedd o bobl mewn dinas a'r byd yn ei ffôn, yn ei boced," meddai Lleuwen.
"Ddaru ni recordio Gwn Glân Beibl Budr yn fyw. Roedd Dafydd Hughes ac Emyr Young wedi gosod camerâu yn y stiwdio yn ystod yr wythnos recordio.
"Y take sydd yn y fideo ydy'r take sydd ar yr albym."