ACau o blaid diddymu'r Mesur Ymadael

Mae mwyafrif o ACau o blaid cael gwared a'r Mesur Ymadael gafodd ei basio i warchod pwerau'r Cynulliad yn sgil Brexit.

Cafodd y mesur ei basio gan aelodau'r Cynulliad ym mis Mawrth er mwyn ceisio gwarchod pwerau'r Cynulliad ar ôl i'r DU adael yr Undeb Ewropeaidd.

Ond dywedodd Llywodraeth Cymru nad oes angen y mesur bellach yn dilyn cytundeb gyda gweinidogion yn San Steffan dros y ffrae gyda Llywodraeth y DU dros ei Mesur Ymadael.

Mae Plaid Cymru eisoes wedi rhybuddio byddai cael gwared ar y mesur yn "kamikaze cyfansoddiadol".

Fe gafodd y symudiad i ddiddymu'r mesur ei basio gan 40 AC i wyth, gyda chefnogaeth Llafur, y Ceidwadwyr ac Ukip.

Yn dilyn misoedd o drafod, daeth gweinidogion yn San Steffan a Chaerdydd i gytundeb ym mis Ebrill dros newidiadau sy'n gysylltiedig â datganoli o fewn Mesur Ymadael Llywodraeth y DU.

O ganlyniad, nid yw Llywodraeth Cymru bellach yn teimlo fod angen y Mesur Parhad.

'Diddymu'r mesur'

Dywedodd Ysgrifennydd Cyllid Cymru, Mark Drakeford ar lawr y Senedd ddydd Mawrth fod Llywodraeth Cymru wedi sicrhau "pob diferyn o nerth" o'r mesur.

Fe wnaeth Plaid Cymru alw ar Lywodraeth Cymru i oedi i weld sut y buasai Brexit yn datblygu yn San Steffan cyn diddymu'r mesur.

Dywedodd Steffan Lewis AC o Blaid Cymru: "Mae symudiad y Blaid Lafur i bleidleisio ochr yn ochr â Ukip a'r blaid Geidwadol yn gwneud hi'n haws i gael Brexit Caled Torïaidd, rhywbeth y buasai rhaid iddyn nhw gyfiawnhau wrth eu cefnogwyr."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Nawr yw'r amser i ofyn i'r Cynulliad i wneud beth wnaethon ni fel llywodraeth addo ei wneud yn y cytundeb cyd-lywodraethol i ddiddymu'r mesur.

"Mae'r ddeddf wedi gwneud ei waith, nawr yw'r amser i symud ymlaen."

Dywedodd Darren Millar ar ran y Ceidwadwyr Cymreig: "Roedd Mesur Parhad y Blaid Lafur yn ddiangen ac yn ddiwerth wnaeth wastraffu amser y Cynulliad.

"Y peth cywir i wneud oedd ei ddiddymu cyn gynted â phosibl."