Â鶹ԼÅÄ

Alopesia: Galw am ariannu wigiau gwell

  • Cyhoeddwyd
alopesiaFfynhonnell y llun, BSIP via Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae ymgyrchwyr yn galw ar y gwasanaeth iechyd i ddarparu wigiau o well safon i bobl sydd ag alopesia a chyflyrau tebyg

Fe ddylai'r gwasanaeth iechyd ariannu wigiau gyda gwallt go iawn ar gyfer pobl sydd ag alopesia, yn ôl ymgyrchwyr.

Fe gafodd Julie Mees ddiagnosis o'r cyflwr dros ddwy flynedd yn ôl, wedi i'w mam weld darn moel ar ei phen.

Mae'r cyflwr wedi gwaethygu ers hynny a chyn bo hir fe fydd hi'n gwbl foel.

Mae'r Gwasanaeth Iechyd yn rhoi arian ar gyfer wigs i gleifion alopesia, neu i gleifion sydd wedi eu llosgi neu sy'n derbyn cemotherapi.

Dywed Llywodraeth Cymru fod gan fyrddau iechyd restr o ddarparwyr wigiau, a bod y cyflenwyr hefyd yn helpu cleifion o ran steil.

Ond penderfyniad y bwrdd iechyd unigol yw hi faint o gyllid maen nhw'n ei wario - gan olygu bod pobl mewn rhai ardaloedd yn derbyn mwy o gymorth.

Ffynhonnell y llun, Julie Mees
Disgrifiad o’r llun,

Julie Mees: Penderfynu prynu wig yn breifat

Dywedodd Ms Mees, cyn ddarlithwraig o'r Barri, ei bod wedi derbyn taleb £50 i brynu wig synthetig o siop benodol.

Ychwanegodd nad oedd modd defnyddio'r daleb pe bai'n hi'n penderfynu mynd yn breifat.

Yn y diwedd, fe wnaeth hi dalu £600 er mwy prynu wig ei hun.

"Roedd y wig arall fel un gwisg ffansi, fyddai'n edrych yn ofnadwy a ddim yn helpu gofynion emosiynol rhywun."

"Eich gwallt yw'r peth cyntaf mae pobl yn ei weld... rwyf o hyd wedi bod â gwallt hir, roedd e'n rhan o bwy oeddwn i," meddai

"Rwy'n ei golli yn llwyr, ac yn emosiynol mae hynny yn anodd iawn."

Ffynhonnell y llun, Moira Jones
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Moira Jones fod ei mab Thomas wedi gwisgo het tan fod ganddo'r hyder i fynd heb un yn 18 oed

Un arall sy'n anhapus gyda'r drefn bresennol yw Moira Jones o Gaerdydd. Mae ei mab 18 oed, Thomas Barry, wedi colli ei holl wallt, gan ddechrau yn 11 oed.

Cred meddygon fod gwallt yn gwneud i'w gorff ymateb fel bod yna gyflwr alergaidd - ond nid ydynt wedi dod o hyd i unrhyw driniaeth hyd yma.

Dywedodd Ms Jones iddi dalu dros £2,000 am ddwy wig, ond nad oedd yr un ohonynt yn addas.

Dywedodd na dderbyniodd unrhyw help gan y Gwasanaeth Iechyd wrth iddi chwilio am wig addas, ac ni wnaeth ei mab gael cynnig unrhyw wasanaeth cwnsela.

Yn ei arddegau, meddai, bu'n rhaid iddo wisgo het drwy'r amser nes iddo fagu hyder yn 18 oed i fod heb r'un.

Gwisgo wig yn 'hanfodol'

Dywed byrddau iechyd Betsi Cadwaladr, Cwm Taf, Hywel Dda, Abertawe Bro Morgannwg ac Aneurin Bevan eu bod yn talu am ddwy wig bob blwyddyn.

Maen nhw'n dweud fod y sawl sy'n eu cyflenwi yn mynd drwy broses penodol er mwyn sicrhau safon angenrheidiol.

Gwnaed cais am sylw hefyd gan fyrddau iechyd Caerdydd a'r Fro a Phowys.

Dywedodd Amy Johnson o'r elusen Alopecia UK : "I nifer o bobl gydag alopesia, mae gwisgo wig yn rhan hanfodol o reoli'r effaith seicolegol o golli gwallt; dyw'r bobl sy'n gwisgo wig am fod ganddynt gyflwr meddygol ddim yn ei ystyried yn opsiwn ffasiynol.

"Mae'r elusen yn clywed gan bobl sy'n ei gweld hi'n anodd mynd i'r gwaith na'r ysgol, neu'n methu gadael y tÅ·. Dylai fod darpariaeth o fewn y GIG i gefnogi unigolion i gael wigiau addas."