Jones: Refferendwm arall os yw May yn gadael heb etholiad

Disgrifiad o'r fideo, Carwyn Jones: 'Ewch yn ôl at y bobl wnaeth y penderfyniad'

Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones wedi galw am refferendwm arall ar Brexit os yw Theresa May yn cael ei disodli yn sgil anghydfod Brexit.

Os na fyddai etholiad cyffredinol yn cael ei gynnal, dywedodd Mr Jones y byddai'n "rhaid" mynd yn ôl at y bobl.

Daw ar ôl i ASau o Gymru alw am "bwyllo" wrth i weinidogion Llywodraeth y DU ymddiswyddo dros y cytundeb drafft ar Brexit.

Ddydd Mercher, yn dilyn cyfarfod wnaeth bara dros bum awr, fe wnaeth y cabinet roi sêl bendith i gytundeb drafft Mrs May gyda'r Undeb Ewropeaidd.

Ond bellach mae dau aelod o'r cabinet wedi ymddiswyddo yn dilyn y trafodaethau - yr Ysgrifennydd Brexit Dominic Raab a'r Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau Esther McVey.

'Dewis ffug'

Wrth siarad yn NhÅ·'r Cyffredin ddydd Iau, dywedodd Mrs May y dylai ASau "feddwl beth sydd orau i'r wlad", a chefnogi'r cytundeb.

"Mae'r dewis yn glir - gadael heb gytundeb, mentro cael dim Brexit o gwbl, neu uno a chefnogi'r cytundeb gorau allwn ni ddod iddo," meddai.

Mewn ymateb dywedodd arweinydd y Blaid Lafur, Jeremy Corbyn fod y llywodraeth wedi croesi eu llinellau coch eu hunain, a gwneud "smonach" o'r trafodaethau.

Dywedodd hefyd nad oedd y cytundeb yn gwireddu "beth gafodd ei addo i'r wlad", ac nad oedd yn credu y byddai'r Senedd yn "derbyn y dewis ffug yma rhwng cytundeb gwael a dim cytundeb".

Disgrifiad o'r llun, Bu Theresa May yn amddiffyn y cytundeb yn NhÅ·'r Cyffredin ddydd Iau

Dywedodd Carwyn Jones y byddai o blaid cynnal refferendwm arall os oedd Theresa May yn cael ei disodli fel prif weinidog heb fod etholiad cyffredinol yn cael ei alw.

Cyn hyn mae Mr Jones ond wedi dweud y byddai'n cefnogi pleidlais arall pe bai etholiad cyffredinol yn cael ei gynnal a bod hwnnw'n methu â datrys y broblem.

"Os yw hyn oll yn arwain at etholiad arweinyddol o fewn y blaid Dorïaidd, sydd jest yn arwain at brif weinidog newydd fydd wedyn yn bwrw 'mlaen heb fandad gan y bobl, byddai hynny'n hollol anghywir," meddai wrth Â鶹ԼÅÄ Cymru.

"Bryd hynny, os nad oedd etholiad, byddai'n rhaid cael refferendwm."

Ychwanegodd fod ymddiswyddiadau'r gweinidogion ddydd Iau yn rhan o "un o'r argyfyngau mwyaf dwi wedi'i weld mewn gwleidyddiaeth".

Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol a Phlaid Cymru hefyd wedi galw am refferendwm arall ar Brexit, gydag arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Liz Saville Roberts yn dweud bod y cytundeb yn "plesio neb".

"Mae'n amser i ni fynd 'nôl [a chael] Pleidlais y Bobl gan gynnig yr opsiwn i ni aros gyda'r hyn 'dyn ni'n sicr ohono fo ac sydd wedi'n gwasanaethu ni'n dda iawn," meddai.

'Problem anferth'

Yn ogystal â Mr Raab a Ms McVey, mae'r Is-weinidog yn Swyddfa Gogledd Iwerddon Shailesh Vara, yr Is-weinidog yn Swyddfa Brexit Suella Braverman, a'r Ysgrifennydd Seneddol Preifat i'r Gweinidogion Addysg Anne-Marie Trevelyan hefyd wedi ymddiswyddo.

Yn ei ymddiswyddiad fe ddywedodd Mr Raab na allai gefnogi'r cytundeb gan fod y cynigion ar gyfer y rheoliadau yng Ngogledd Iwerddon "yn peri bygythiad go iawn i gyfanrwydd y Deyrnas Unedig".

Ychwanegodd fod y trefniadau fyddai mewn lle i atal ffin galed rhag cael ei sefydlu yn Iwerddon hefyd yn golygu bod gan yr UE "feto dros ein gallu i adael".

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Esther McVey nad oedd y cytundeb yn parchu canlyniad y refferendwm

Mae AS Ceidwadol Gorllewin Clwyd, David Jones - sy'n gyn-weinidog Brexit a chyn-Ysgrifennydd Cymru - yn un o'r rheiny sydd wedi datgan ei gefnogaeth i Mr Raab wedi ei ymddiswyddiad.

"Mae'r prif weinidog wastad wedi bod yn glir na allwn ni drin Gogledd Iwerddon yn wahanol i weddill y DU, a dyma beth allai ddigwydd gyda'r cytundeb yma," meddai.

"Dwi'n meddwl fod Dominic yn hollol gywir. Doedd ganddo ddim opsiwn ond gadael ac rydw i'n ei gymeradwyo am wneud hynny."

Wrth drafod y cytundeb drafft, ychwanegodd: "Fydd y cynnig yma ddim yn cael ei basio yn y Senedd, a does dim pwynt parhau gydag o."

'Angen pwyllo'

Mae ASau Ceidwadol eraill fodd bynnag wedi herio'r farn honno, gydag AS Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro, Simon Hart yn dweud na fydd "cerdded i ffwrdd yn datrys unrhyw beth".

"Nawr yw'r adeg i bobl fod yn bwyllog, medrus a phroffesiynol," meddai ar raglen Victoria Derbyshire.

Dywedodd AS Mynwy, David Davies ei fod yn pryderu y gallai'r cyfan "orffen yn wael".

"Bydden i'n awgrymu bod angen pwyllo. Dwi ddim yn or-hoff o'r cynllun, ond os all rhywun ddweud wrtha i beth yw'r dewis arall byddai gen i ddiddordeb," meddai.

Ychwanegodd AS Preseli Penfro, Stephen Crabb - sydd hefyd yn gyn-Ysgrifennydd Cymru - nad dyma'r adeg i "gerdded i ffwrdd o'n cyfrifoldebau i arwain".