Yr Urdd gwerth £25.5m i economi Cymru yn 2017-18

Roedd mudiad Urdd Gobaith Cymru yn werth £25.5m i'r economi yn y flwyddyn 2017-18, yn ôl adroddiad newydd.

Yn ôl yr adroddiad, mae disgwyl y bydd yr effaith economaidd yn tyfu i £27.8m yn 2018-19, ac ymhellach i tua £31m erbyn 2019-20.

Bydd yr adroddiad gan Ymchwil Arad, gafodd ei gomisiynu gan yr Urdd, yn cael ei gyhoeddi mewn digwyddiad yn y Cynulliad ddydd Iau.

Dywedodd prif weithredwr yr Urdd, Siân Lewis eu bod yn "falch iawn o'r ffigyrau".

Yn ôl yr adroddiad fe wnaeth dros 46,000 o bobl a phlant aros yng ngwersylloedd yr Urdd yn y flwyddyn 2017-18 - 21,599 yn Llangrannog, 13,499 yng Nglan-llyn ac 11,020 yng Nghaerdydd.

Fe wnaeth y mudiad gyhoeddi fis diwethaf eu bod yn bwriadu bwrw 'mlaen gyda chynllun datblygu £5.5m yng ngwersylloedd Llangrannog a Glan-llyn.

Disgrifiad o'r llun, Mae gwersyll Glan-llyn yn werth £2m i'r economi, yn ôl yr adroddiad

Gwerth canghennau'r Urdd i'r economi

  • Eisteddfodau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol - £11.5m
  • Gweithgareddau chwaraeon - £2.6m
  • Gwersylloedd - £6.9m (Llangrannog - £3.1m; Glan-llyn - £2m; Caerdydd - £1.8m)
Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Siân Lewis bod yr Urdd yn "rhan bwysig o'r economi leol" yn Llangrannog a'r Bala

"Gyda mwy na 300 o staff, yr Urdd yw'r cyflogwr trydydd sector cyfrwng Cymraeg mwyaf yng Nghymru," meddai Ms Lewis.

"Amcan yr Urdd yw darparu profiadau a gweithgareddau trwy gyfrwng y Gymraeg i blant a phobl ifanc yng Nghymru, ond mae'r adroddiad hwn yn dangos ein bod yn rhagori ar ein hamcanion.

"Rwy'n credu'n wirioneddol yn ein gallu i greu swyddi a chyfoeth i economi Cymru.

"Yn Llangrannog a'r Bala, rydym wedi dod yn rhan bwysig o'r economi leol a'n huchelgais yw cael effaith gadarnhaol ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol."