Â鶹ԼÅÄ

Ni ddylai Carwyn Jones 'glymu dwylo' olynydd ar yr M4

  • Cyhoeddwyd
M4

Ni ddylai Carwyn Jones gael penderfynu os fydd ffordd liniaru'r M4 yn cael ei hadeiladu neu beidio, yn ôl Aelod Cynulliad Llafur.

Dywedodd Jenny Rathbone, sy'n erbyn y cynllun, na ddylai'r prif weinidog "glymu dwylo" ei olynydd.

Mae Mark Drakeford, Vaughan Gething ac Eluned Morgan yn y ras i olynu Mr Jones fel arweinydd y Blaid Lafur ar ôl i Mr Jones adael ei swydd fis nesaf.

Nid oedd Llywodraeth Cymru am wneud sylw.

Y gred yw bod Mr Gething a Ms Morgan yn gefnogol o'r datblygiad, tra bod Mr Drakeford yn fwy amheus o'r cynllun.

Dywedodd Ms Rathbone, sy'n cefnogi Mr Drakeford: "Dwi ddim yn deall sut y gall e [Carwyn Jones] glymu dwylo ei olynydd gyda phrosiect o'r maint yma.

"Dwi'n credu y dylai'r llywodraeth fod yn gweithio'n galed i weld sut y gallwn ni gyflwyno gwell systemau trafnidiaeth gyhoeddus yn y tymor byr a'r tymor hir.

"Mae e dal yn brif weinidog tan 10 Rhagfyr ond dwi yn meddwl ei bod hi'n od y byddai'n gwneud penderfyniad mor fawr sydd am hawlio cymaint o agweddau o'n cyllidebau, a hynny cyn iddo ymddiswyddo."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'n "od" mai Carwyn Jones fydd yn gwneud penderfyniad ar ffordd liniaru'r M4, yn ôl Jenny Rathbone

Ar hyn o bryd mae swyddogion y llywodraeth yn dadansoddi cynnwys adroddiad yr ymchwiliad cyhoeddus i'r ffordd liniaru.

Y llwybr du yw ffefryn y llywodraeth ar hyn o bryd - llwybr a fyddai'n golygu adeiladu 14 milltir o draffordd i'r de o Gasnewydd.

Bydd Carwyn Jones yn gwneud penderfyniad unwaith mae'r swyddogion wedi paratoi argymhellion yn seiliedig ar yr adroddiad.

Ar ôl hynny bydd pleidlais yn cael ei gynnal yn y Cynulliad.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Carwyn Jones yn camu i'r neilltu ym mis Rhagfyr

Mae ACau Llafur eraill, gan gynnwys Mike Hedges, yn cytuno gyda Ms Rathbone fod hwn yn benderfyniad i'r prif weinidog nesaf.

Dywedodd ffynhonnell o'r blaid fod "tua hanner" grŵp Llafur y Cynulliad yn teimlo'r un fath.

Gofynnodd rhaglen Â鶹ԼÅÄ Wales Live wrth y tri ymgeisydd i olynu Mr Jones os oedden nhw'n credu mai ef dylai wneud y penderfyniad.

Eluned Morgan oedd yr unig un i ateb yn uniongyrchol, gan nodi ei bod hi'n "hapus i'r prif weinidog presennol wneud y penderfyniad".

Nid oedd Llywodraeth Cymru am wneud sylw.