Â鶹ԼÅÄ

Amddiffynnwr Cymru, Chris Mepham i fethu gêm Denmarc

  • Cyhoeddwyd
Chris MephamFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Chris Mepham yn rhan o'r tîm a gollodd i Ddenmarc ym mis Medi

Mae amddiffynnwr Brentford, Chris Mepham, wedi gorfod tynnu'n ôl o garfan Cymru oherwydd anaf.

Mae'r anaf yn golygu y bydd yr amddiffynnwr canol yn methu gêm olaf Cymru yng Nghynghrair y Cenhedloedd yn erbyn Denmarc nos Wener.

Roedd Mepham hefyd yn absennol o'r garfan heriodd Sbaen a Gweriniaeth Iwerddon ym mis Hydref.

Mae Ryan Giggs wedi galw Kieron Freeman o Sheffield United i'r garfan yn ei le.

Mae pryderon hefyd ynglŷn â ffitrwydd Gareth Bale ar ôl i yntau dderbyn anaf i'w bigwrn tra'n chwarae i Real Madrid dros y penwythnos.