Cyngor Gwynedd yn achub gwasanaeth bysiau - am y tro

Ffynhonnell y llun, Google

Disgrifiad o'r llun, Mae Cyngor Gwynedd wedi cyhoeddi ei fod am ariannu gwasanaeth yr X19 tan y Nadolig

Mae'r gwasanaeth bws "angenrheidiol" sy'n rhedeg rhwng Llandudno a Blaenau Ffestiniog wedi cael ei achub tan y Nadolig, wedi i Gyngor Gwynedd gamu i'r adwy.

Roedd cwmni bysiau Llew Jones Coaches wedi dweud y bydden nhw ond yn rhedeg gwasanaeth yr X19 unwaith y dydd, gan nad oedd yn ymarferol yn ariannol i gynnal mwy o deithiau.

Ond yn dilyn ymgyrch leol, cyhoeddodd yr awdurdod lleol eu bod wedi dod i drefniant i alluogi'r gwasanaeth i redeg dwywaith y dydd.

Fodd bynnag, does dim sicrwydd wedi'i roi am sut y bydd y gwasanaeth yn rhedeg yn y flwyddyn newydd.

'O bwys economaidd ac addysgol'

Yn ôl cwmni Llew Jones, maen nhw wedi bod yn rhedeg y gwasanaeth ar golled ers 12 mis.

Dywedodd llefarydd ar ran Gyngor Gwynedd: "Mi allwn gadarnhau bod y cyngor am ariannu'r gwasanaeth X19 tan y Nadolig, er mwyn ein galluogi i gyd-weithio gyda phartneriaid perthnasol i gynnig datrysiad tymor hir."

Gan groesawu'r cyhoeddiad, dywedodd cynghorydd Bowydd a Rhiw, Annwen Daniels, ei bod "yn falch iawn" o glywed y newyddion.

"Roedd yn wasanaeth pwysig am fod nifer o blant yn teithio adref o'r ysgol uwchradd yn Llanrwst i Flaenau yn y pnawniau ac mae nifer o bobl yn defnyddio'r gwasanaeth i gyrraedd gwasanaethau iechyd, bancio, siopau ac yn y blaen."

Ychwanegodd bod nifer o wasanaethau'n cael eu torri mewn ardaloedd gwledig, a'i fod yn cael effaith aruthrol ar ffordd o fyw'r cymunedau.

"I nifer o bobl leol, yn enwedig pobl hÅ·n, pobl heb geir, a disgyblion ysgol - mae'r gwasanaeth yma'n un angenrheidiol."

Pwysleisiodd y Cynghorydd Dafydd Meurig, dirprwy arweinydd Cyngor Gwynedd, mai "trefniant dros dro i atal rhag amharu ar daith disgyblion i'w hysgolion yng nghanol y tymor" oedd wedi arwain yr awdurdod lleol i gynnal y gwasanaeth tan y Nadolig.

Dywedodd AS Dwyfor Meirionnydd, Liz Saville Roberts, ei bod yn croesawu'r penderfyniad i gadw'r gwasanaeth, "sydd o bwys economaidd ac addysgol" i deithwyr rhwng Blaenau Ffestiniog a Sir Conwy.

Ychwanegodd ei bod bellach, ar y cyd gyda Chyngor Gwynedd, am drafod gyda chwmni Llew Jones Coaches a phartneriaid eraill i drefnu amserlen newydd.