Â鶹ԼÅÄ

10 peth ddylai pawb wybod am gerdd dant

  • Cyhoeddwyd
Sioned GruugFfynhonnell y llun, BOOM
Disgrifiad o’r llun,

Fyddai Sioned Grug ddim wedi ei phlesio yn Eisteddfod Madog 1852

Teimlo'n anniwylliedig a di-glem pan mae rhywun yn sôn am un o'n prif draddodiadau cerddorol?

Peidiwch â phoeni, mae Cymru Fyw yma i'ch helpu. Wrth i'r Ŵyl Cerdd Dant gael ei chynnal yn Llanelli ar 9 Tachwedd, dyma 10 ffaith ddifyr am y grefft hynafol. Gwyyyych!

1. Fe gafodd cerdd dant ei wahardd fel cystadleuaeth mewn eisteddfodau ar ôl Eisteddfod Madog 1852 oherwydd cambihafio ar y llwyfan.

Crefft werinol oedd hi bryd hynny, efo digon o hwyl - gormod i rai yn y gynulleidfa yn amlwg.

Yn ôl un llygad-dyst: "...yr oedd ysgrechfeydd, cabledd a rhegfeydd yr ymgeiswyr yn llawer mwy amlwg, yn eu hymosodiadau ar y naill a'r llall, nag ydoedd unrhyw gystadledd reolaidd a threfnus mewn datganu gyda'r tannau."

Wedi hynny doedd dim canu penillion mewn rhai eisteddfoddau ac roedd effaith ar yr Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon 10 mlynedd yn ddiweddarach hefyd. Yn hytrach na chystadleuaeth, fe ddewiswyd tri chanwr penillion "o nodwedd parchus" i ddifyrru'r gynulleidfa.

2. Teimlo embaras am beidio gwybod y gwahaniaeth rhwng 'cainc' a 'gosodiad'? Mae'n syml - mae dwy alaw mewn cerdd dant - dyna sy'n ei wneud yn unigryw.

Y 'gainc' ydi alaw'r delyn. Dim ond o gwmpas hanner cant oedd yn bodoli tua chanrif yn ôl. Mae dros 600 erbyn hyn.

Y 'gosodiad' ydi'r alaw wahanol - y gyfalaw - sy'n cael ei chanu mewn harmoni (i fod) efo'r delyn.

3. Doedd 'na'm ffasiwn beth â chôr cerdd dant tan yr 1950au.

4. Roedd Canu Cylch yn boblogaidd ar un cyfnod, a byddai Simon Cowell wrth ei fodd efo'r fformat.

Doedd y cystadleuwyr ddim yn cael manylion yr alaw tan oedden nhw i gyd mewn rhes ar y llwyfan yn barod i berfformio. Roedd y cystadleuydd cyntaf wedyn yn dewis pa fath o bennill i'w ganu ar fyrfyfyr.

Digon anodd, ond roedd pethau'n anoddach byth i'r rhai oedd yn dilyn. Roedd rhaid adnabod mesur y pennill, a chanu pennill gwahanol ar yr un mesur. Unrhyw gamgymeriad? Allan o'r gystadleuaeth!

5. Barddoniaeth, nid cerddoriaeth ydi'r flaenoriaeth erioed, ond mae'r elfen gerddorol wedi dod yn fwyfwy pwysig dros y degawdau diwethaf.

6. Gellir dadlau mai cerdd dant ydi'r 'jazz' gwreiddiol. Yn draddodiadol, cyfansoddi yr alaw wrth fynd yn eu blaenau oedd cerdd dantwyr - canu ar fyrfyfyr yn debyg i artistiaid jazz heddiw. Rhywbeth cymharol ddiweddar ydi paratoi gosodiad a'i ymarfer o flaen llaw.

7. Mae rheolau pendant i gerdd dant. Er enghraifft, mae'n rhaid i eiriau'r gerdd orffen yr un pryd â'r delyn ac mae'n rhaid i brif acenion y gerdd gyd-fynd â phrif acen yr alaw.

8. Er bod digon o sôn am reolau cerdd dant, doedd dim rheolau swyddogol tan yr 1960au er bod y traddodiad wedi bod o gwmpas ers canrifoedd.

Disgrifiad o’r llun,

Gyda gŵyl flynyddol lwyddiannus, mae statws cerdd dant llawer uwch heddiw nac yn yr 1930au

9. Doedd cerdd dant ddim ar brif lwyfan Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 1933 oherwydd statws isel y grefft ar y pryd. Cafodd y gystadleuaeth ei chynnal yn un o'r pebyll ymylol.

10. Yn yr 1980au y daeth y chwyldro cerddorol i'r byd cerdd dant. Fe wnaeth y diweddar Gareth Mitford Williams, hyfforddwr Côr Cerdd Dant Neuadd Pantycelyn, Aberystwyth, wthio'r ffiniau gyda gosodiadau beiddgar a dadleuol.

Bydd rhaglen o uchafbwyntiau'r Å´yl Cerdd Dant ar Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru, am 14.00, dydd Sul, 10 Tachwedd, ac oriel luniau o'r ŵyl ar Cymru Fyw ar ddydd Llun, 11 Tachwedd.

Hefyd o ddiddordeb:

Y gorau o Gymru ar flaenau dy fysedd

Lawrlwytha ap Â鶹ԼÅÄ Cymru Fyw