Â鶹ԼÅÄ

Tlodi hylendid: 'Ddim yn teimlo fel fi fy hun'

  • Cyhoeddwyd
Shannon Chittenden
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Shannon Chittenden bod tlodi hylendid wedi effeithio ar ei hiechyd meddwl

"Mi ddechreuodd y cwbl oherwydd fy mod i wedi rhedeg allan o foundation a 'dwi'n gwybod bod hynny yn swnio'n hurt i rai pobl, ond i mi, mae'n o'n bwysig.

"I ferched eraill, efallai mai dim ond colur ydy foundation, ond i mi mae o fel mwgwd. Mae'n gallu cuddio fy mhroblemau."

I Shannon Chittenden, 18 o Gaerdydd, nid dim ond rhywbeth sy'n codi cywilydd arni ydy tlodi hylendid personol - mae'n gallu effeithio ar ei hiechyd meddwl.

Ond mae pobl fel hi nawr yn dechrau cael cynnig cymorth gan grwpiau fel Beauty Banks - criw o bobl sy'n dosbarthu miloedd o nwyddau hylendid i'r rheiny mewn tlodi hylendid.

'Teimlo mor isel'

"Mae colur a phethau ymolchi yn gallu codi gwên ar wyneb rhywun," meddai Shannon.

"Pan doedd gen i ddim, doeddwn i ddim yn teimlo fel fi fy hun. Roeddwn i'n teimlo fel na allwn i gyflwyno fy hun i'r byd, doeddwn i methu dangos i'r byd 'mod i'n gryf oherwydd 'mod i'n teimlo mor isel am y ffordd roeddwn i'n edrych.

"Cafodd effaith fawr arna'i... roedd o'n teimlo bron fel bod 'na neb i fy helpu i."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Shannon ei bod weithiau'n gorfod defnyddio papur tÅ· bach yn lle padiau mislif

Mae gwaith ymchwil gan Ymddiriedolaeth Trussell, sydd â rhwydwaith o fanciau bwyd ar draws y DU, yn awgrymu bod mwy na hanner y bobl sy'n defnyddio eu gwasanaethau methu fforddio cynnyrch ymolchi.

Roedd Shannon, sydd ddim yn gallu gweithio ar hyn o bryd oherwydd ei phroblemau iechyd meddwl, yn ddigartref am gyfnod tra roedd hi yn y coleg.

Mae hi'n derbyn £230 pob mis mewn taliadau Credyd Cynhwysol, sy'n talu am rentu lle yn yr hostel lle mae hi'n byw nawr.

Mae ei chostau bwyd yn golygu ei bod hi'n aml yn gorfod penderfynu rhwng bwyd a phethau ymolchi, nwyddau mislif a cholur.

"Mae padiau yn costio mwy na £1, os ydych chi eisiau rhai arbennig sy'n fwy cyfforddus, mae'n rhaid i chi dalu £2 neu £3 am baced o 12 pad," meddai Shannon.

"Gall £3 fynd yn bell. I mi, mae hynny'n fara, menyn a llaeth. Gall hynny bara wythnos tra bod paced o badiau dim ond yn ddigon am ddeuddydd."

'Ddim yn teimlo fel fi fy hun'

Yn ôl Shannon, mae'r ffaith nad yw hi'n gallu prynu rhai o'r pethau yma wedi arwain iddi deimlo'n unig ac isel.

"Pan nad ydw i'n teimlo ar fy ngorau, dydw i ddim eisiau gweld pobl... a dwi'n ofnadwy o isel," meddai.

"Dydw i ddim yn teimlo fel fi fy hun. 'Dwi wir yn teimlo bod hynny oherwydd bod gen i ddim foundation y diwrnod hwnnw, neu fod gen i ddim pad i wisgo ac mae'n rhaid i mi ddefnyddio papur tÅ· bach.

"Mae'n neud i ti deimlo'n isel iawn."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Beauty Banks yn darparu pecynnau gofal i bobl sydd eu hangen ar draws Prydain

Ar gyfer pobl fel Shannon mae Beauty Banks wedi'i sefydlu, a hynny gan y newyddiadurwr o Gymru, Sali Hughes, a'r cyfarwyddwr harddwch, Jo Hones.

Mae'r sefydliad yn casglu cynnyrch ymolchi a nwyddau harddwch gan gwmnïau mawr a'r cyhoedd i baratoi pecynnau gofal i yrru at fanciau bwyd ac elusennau ar draws Prydain.

Mae Ms Hughes, sydd wedi siarad am ei phrofiad hi o ddigartrefedd yn y gorffennol, yn dweud bod gwallt, croen a dannedd glân yn "hawl, nid yn fraint" a bod hylendid personol yn "hollbwysig i'n hurddas, hunan-barch, a'n iechyd meddwl".