Penodi is-weinidog Swyddfa Cymru yn lle Mims Davies

Ffynhonnell y llun, UK Parliament

Disgrifiad o'r llun, Astudiodd Mims Davies, AS Eastleigh, ym Mhrifysgol Abertawe

Mae Mims Davies AS wedi gadael ei swydd fel is-weinidog yn Swyddfa Cymru.

Cafodd Ms Davies, aelod dros Eastleigh, ei phenodi'n is-weinidog dros y celfyddydau, y cyfryngau a chwaraeon gan Theresa May wedi ymddiswyddiad Tracey Crouch yr wythnos ddiwethaf mewn ffrae dros beiriannau hapchwarae ods sefydlog.

Mae AS Selby ac Ainsty, Nigel Adams, nawr wedi ei benodi'n is-weinidog yn Swyddfa Cymru.

Mr Adams yw'r pedwerydd AS i fod yn y swydd ers dechrau'r flwyddyn - sy'n arwydd, yn ôl Ysgrifennydd Llywodraeth Leol Cymru, Alun Davies nad yw Llywodraeth y DU yn cymryd Swyddfa Cymru o ddifrif.

Cafodd Ms Davies ei phenodi ym mis Gorffennaf, gan olynu Stuart Andrew, oedd ond wedi camu i esgidiau Guto Bebb ym mis Ionawr.

Doedd hi ddim yn derbyn tâl am y swydd, a dim ond pythefnos yn ôl oedd ei hymddangosiad cyntaf o flaen y Pwyllgor Materion Cymreig yn Nhŷ'r Cyffredin.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae Nigel Adams yn Aelod Seneddol ers 2010

Mae Mr Adams yn un o chwipiaid cynorthwyol y llywodraeth Geidwadol yn San Steffan ac yn gyn-weinidog llywodraeth leol.

Mae Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns wedi diolch i Ms Davies "am ei holl waith caled yn y misoedd diwethaf".

Dywedodd hefyd ei fod yn edrych ymlaen at weithio gyda Mr Adams, a bod ganddo'r "profiad seneddol cadarn" angenrheidiol "i'n helpu i wireddu polisiau sy'n gyrru Cymru i lwyddo o ran cryfder economaidd a chydnabyddiaeth yn rhyngwladol".

Ond mewn neges ar ei gyfrif Twitter yn ymateb i'r penodiad, dywedodd Alun Davies: "Felly, dyw Llywodraeth y DU hyd yn oed ddim yn cymryd Swyddfa Cymru o ddifrif rhagor."