Â鶹ԼÅÄ

Cofio pennod goll y Rhyfel Mawr

  • Cyhoeddwyd
derbentFfynhonnell y llun, COMISIWN BRENHINOL HENEBION CYMRU
Disgrifiad o’r llun,

Mae ymchwilwyr wedi creu delweddau o longau gafodd eu suddo yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, yn cynnwys y Derbent, sydd i'r gogledd o Ynys Môn

Ym mis Tachwedd 1914, suddwyd llong oddi ar arfordir Chile gan ladd pawb oedd arni yn un o frwydrau môr gynharaf y Rhyfel Byd Cyntaf. Ymysg y 919 a laddwyd roedd bachgen 15 oed o Fangor.

Ychydig fisoedd ynghynt roedd Thomas John Roberts yn weithiwr llechi, ond ymunodd â'r llynges ac aeth y rhyfel ag o 7000 o filltiroedd i ffwrdd i foroedd De America. Yno mae ei fedd hyd heddiw, ar wely'r môr gyda gweddill criw HMS Good Hope.

Mae ei fywgraffiad byr yn codi cwr y llen ar bennod llai adnabyddus o'r Rhyfel Byd Cyntaf pan ddaeth y brwydro yn agos iawn at Gymru.

Ffynhonnell y llun, ARCHIFAU GWYNEDD
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Thomas John Roberts pan suddwyd y llong HMS Good Hope ger arfordir Chile

Fe ddechreuodd yr ymladd ar y môr pan gyhoeddodd Prydain yn 1914 bod Môr y Gogledd yn ardal frwydro.

Wedi i'r Almaen ehangu'r ardal i gynnwys y moroedd o gwmpas Prydain ac Iwerddon yn 1917, cyhoeddodd yr Almaenwyr y byddai eu llongau tanfor yn ymosod ar unrhyw long o eiddo'r Cynghreiriaid, yn cynnwys llongau masnach ac unrhyw long niwtral.

Yn 1917 dinistriwyd 3,723 o longau'r cynghreiriaid, a dros gyfnod y rhyfel cafodd hanner holl longau masnach Prydain eu heffeithio.

Ffynhonnell y llun, LLYFRGELL PRIFYSGOL HEIDELBERG
Disgrifiad o’r llun,

Roedd cartwnau oedd yn dychanu sefyllfa Prydain yn cael eu cyhoeddi mewn cylchgronnau a phapurau newydd yn yr Almaen

Mae Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru wedi bod yn cydlynu prosiect i ddarganfod mwy am y 168 o longau gafodd eu suddo oddi ar arfordir Cymru, ac i goffáu effaith rhyfel y môr ar ei phobol.

Dywedodd Gareth Edwards, Pennaeth Gwybodaeth a Dealltwriaeth y Comisiwn:

"Roedd Prydain bron a chael ei threchu gan yr Almaenwyr gan eu bod yn stopio nwyddau, bwyd, popeth, rhag dod mewn i'r wlad. Roedd lot fawr o Gymry'n gweithio ar y môr yn ystod y cyfnod, a nifer wedi cael eu heffeithio'n uniongyrchol.

"Felly mae'n gyfnod pwysig o safbwynt hanes y rhyfel a hanes Cymru ond mae nifer o bobol wedi anghofio'r rhan yma o hanes.

"Dwi'n meddwl mai'r rheswm ydi bod y gyflafan yn Fflandrys mor echrydus, a bod cymaint o bobol wedi cwffio yn Ffrainc a Gwlad Belg, mae'r ffosydd yn naturiol wedi dod i symbylu'r rhyfel."

Mae Prosiect Llongau U wedi cyd-weithio gyda amgueddfeydd lleol a grwpiau cymunedol i geisio darganfod straeon lleol am yr effaith ar gymunedau.

Cymunedau fel LlÅ·n, lle cafodd cyrff o leiaf 26 o bobol eu golchi i'r lan ar hyd ei harfordir yn ystod y rhyfel.

Ar Awst 20, 1917 suddwyd yr Edernian gan long danfor yr Almaen ger arfordir Suffolk. Roedd y perchnogion Owen a Watkin Williams yn dod o Edern, a llawer o'r criw hefyd yn dod o'r pentref a'r ardaloedd cyfagos. Un ohonyn nhw oedd Hugh Griffith Hughes, o Nefyn, oedd dim ond yn 17 oed.

Ffynhonnell y llun, Rhiw.com
Disgrifiad o’r llun,

Roedd nifer fawr o griw yr Edernian yn dod o Nefyn, Morfa Nefyn ac Edern

Ffynhonnell y llun, RHIW.COM

Yn ôl cyd-lynydd y prosiect Dr Rita Singer:

"Roedd canran uchel o'r morwyr yn rhy ifanc neu'n rhy hen i fynd i ymladd, ond os oedden nhw o dan 18 neu'n hŷn na 41 oed, roedden nhw'n gallu ymuno â'r llynges masnach.

"Pan roedd y llongau masnach wedyn yn cael eu targedu, roedden nhw'n cael eu lladd er nad oedda' nhw o fewn yr oed cyfreithiol i fynd i ymladd."

Ffynhonnell y llun, .
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y Tampa, o'r Unol Daleithiau, ei suddo gan dorpido tra'n teithio i Gymru. Golchwyd dau gorff i'r lan yn Sir Benfro a'u darganfod gan Mary Brace. Bu hi'n gofalu am y bedd hyd yr 1960au

Fe wnaeth Dr Singer, sy'n dod o'r Almaen ond rŵan yn byw yng Nghymru, dreulio amser yn archifdai'r Almaen yn darllen 109 o ddyddiaduron capteiniaid y llongau tanfor.

Meddai: "Roedd y capteiniaid yn gorfod cadw nodiadau manwl ynglŷn â'u lleoliad, lle roeddynt yn cyfarfod, a phan oedden nhw'n suddo llong, roedden nhw'n cofnodi manylion beth ddigwyddodd a lle'n union roedden nhw.

"Ond doedd y wybodaeth ddim bob tro yn fanwl gywir - doedd dim GPS y dyddiau hynny."

Ffynhonnell y llun, COMISIWN BRENHINOL HENEBION CYMRU
Disgrifiad o’r llun,

Map Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru o leoliadau'r llongau gafodd eu suddo

Felly mae'r prosiect wedi defnyddio'r dechnoleg sydd ar gael erbyn hyn i ganfod union leoliad y llongddrylliadau - a chreu delweddau o rai ohonyn nhw.

Bu llong ymchwil Prifysgol Bangor y Prince Madog yn teithio'r môr o gwmpas Cymru yn chwilio am safleoedd y llongau gafodd eu suddo, gan gynnwys dwy long danfor yr Almaenwyr.

Defnyddiwyd system uwchsain i greu siâp rhai o'r llongau hynny ac mae delweddau 3D rŵan yn cael eu creu.

Y gobaith ydi bydd rhain yn rhoi cliwiau ynglŷn ag eiliadau olaf rhai o'r llongau, ganrif ar ôl iddynt gael eu suddo.

Am fwy o wybodaeth, ewch i wefan .

Efallai o ddiddordeb:

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r Â鶹ԼÅÄ ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol