Â鶹ԼÅÄ

Cytundeb newydd i ddiogelu swyddi Ford ym Mhen-y-bont?

  • Cyhoeddwyd
Ford Pen-y-bontFfynhonnell y llun, Ford
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ford yn cyflogi dros 1,700 ym Mhen-y-bont

Fe allai trafodaethau rhwng cwmni cemegol Ineos a chwmni Ford i adeiladu car newydd arwain at ddiogelu swyddi ym Mhen-y-bont.

Mae'r Â鶹ԼÅÄ yn deall mai dyddiau cynnar yw hi o ran y trafodaethau rhwng y ddau gwmni.

Gobaith Ineos yw adeiladu cerbyd gyriant pedair olwyn, fyddai'n llenwi'r bwlch gafodd ei adael yn dilyn y penderfyniad i roi'r gorau i gynhyrchu'r Land Rover Defender yn 2016.

Yn ôl y Financial Times mae'r ddau gwmni yn cynnal trafodaethau am y posibilrwydd o adeiladu'r cerbyd newydd ym Mhen-y-bont.

Breuddwyd Jim Ratcliff, cadeirydd Ineos a'r dyn cyfoethocaf ym Mhrydain, yw'r car gyriant pedair olwyn newydd.

Ar hyn o bryd mae'r ffatri yn ne Cymru yn cyflenwi injans ar gyfer Jaguar Land Rover, ond fe fydd y cytundeb yna yn dod i ben yn 2020.

Mae hynny'n golygu dyfodol ansicr i tua 900 o'r 1,700 sy'n gweithio ym Mhen-y-bont.

Mae dyfodol hir dymor Ford yn ne Cymru hefyd yn ansicr, gan fod Ford wedi rhybuddio y gallai'r cwmni adolygu ei bolisi buddsoddi ym Mhrydain yn ddibynnol ar setliad Brexit.

Dyw Ineos heb wneud unrhyw sylw hyd yma, tra bod Ford yn dweud eu bod yn parhau i edrych am gyfleoedd newydd ar gyfer y dyfodol.