Â鶹ԼÅÄ

Elusen: Undeb Rygbi Cymru'n ildio i bwysau

  • Cyhoeddwyd
Weir
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Doddie Weir ddiagnosis o glefyd motor neurone yn 2017

Bydd Undeb Rygbi Cymru a Scottish Rugby yn cyfrannu'n uniongyrchol i elusen wedi iddyn nhw gael eu beirniadu am beidio gwneud hynny'n wreiddiol.

Cwpan Doddie Weir fydd y tlws i'r tîm buddugol pan fydd y ddwy wlad yn cwrdd yn Stadiwm Principality yng ngêm gyntaf cyfres yr hydref ddydd Sadwrn - gêm ar gyfer Sefydliad My Name'5 Doddie a sefydlwyd wedi i gyn glo Yr Alban gael diagnosis o glefyd motor neurone.

Dechreuodd ymgyrch i godi ymwybyddiaeth o'r clefyd pan gafodd y gêm ei chyhoeddi ym mis Ionawr, ond cafodd yr undebau rygbi eu beirniadu pan ddaeth i'r amlwg na fydden nhw'n cyfrannu arian i'r elusen.

Nos Sul ar raglen Scrum V y Â鶹ԼÅÄ, fe wnaeth y sylwebyddion Jonathan Davies, Andy Robinson a Peter Jackson annog y ddau undeb i gyfrannu'n uniongyrchol at yr elusen.

Bellach maen nhw wedi cadarnhau y bydd swm "chwe ffigwr" yn mynd yn uniongyrchol at yr elusen, ac y bydd hynny ochr yn ochr ag ymgyrch i godi arian y tu allan i'r stadiwm.

Dywedodd llefarydd ar ran URC: "Ry'n ni wedi gwrando ar y cefnogwyr, ac er mai ein nod gwreiddiol wrth gefnogi Sefydliad My Name'5 Doddie oedd codi ymwybyddiaeth o'r frwydr yn erbyn clefyd motor neurone, ry'n ni wedi penderfynu gwneud cyfraniad uniongyrchol.

"Y nod o'r cychwyn oedd dathlu un o fawrion rygbi'r byd, ac mae'n teimlo'n briodol felly ein bod yn adlewyrchu haelioni'r teulu rygbi gyda chyfraniad ein hunain."

Ffynhonnell y llun, Â鶹ԼÅÄ Sport
Disgrifiad o’r llun,

Panelwyr Scrum V: Jonathan Davies, Andy Robinson a Peter Jackson