Lluniau: Oes aur y chwareli

Daeth y newyddion heddiw y bydd Llywodraeth y DU yn enwebu ardaloedd llechi Gwynedd i fod yn Safle Treftadaeth y Byd UNESCO.

Y saith ardal benodol yw Dyffryn Ogwen, Dinorwig, Dyffryn Nantlle, Ffestiniog, Cwm Pennant, Abergynolwyn ac Aberllefenni. Bydd yn cael ei chyflwyno i UNESCO yn ffurfiol y flwyddyn nesaf.

Mae'r llyfr Welsh Slate: Archaeology and History of an Industry gan David Gwyn, archeolegydd diwydiannol o Benygroes, yn olrhain hanes rhai o'r chwareli a'u cymunedau. Yn y gyfrol mae yna luniau trawiadol o'r amodau gwaith yn y chwareli, a gafodd eu cyhoeddi gan Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru.

Dyma flas o rai o'r lluniau o'r gweithwyr a'r tirwedd:

Ffynhonnell y llun, Hawlfraint y Goron: CBHC

Disgrifiad o'r llun, Naddwr llechi yn Chwarel y Penrhyn

Ffynhonnell y llun, HAWLFRAINT Y goron: CBHC

Disgrifiad o'r llun, Chwarelwyr Dorothea, Dyffryn Nantlle

Ffynhonnell y llun, Hawlfraint y Goron: CBHC

Disgrifiad o'r llun, Pwyllgor chwarelwyr y Penrhyn: arweinydd yr undeb, W. J. Parry (chwith), yn wynebu'r Arglwydd Penrhyn (dde)

Ffynhonnell y llun, © Hawlfraint y Goron: CBHC

Disgrifiad o'r llun, Melin llawr 5 yn chwarel Llechwedd

Ffynhonnell y llun, Hawlfraint y Goron: CBHC

Disgrifiad o'r llun, William John Parry yn arwain ymwelwyr enwog o'r mudiad llafur o amgylch chwarel gydweithredol Pant Dreiniog a'i chyfarpar newydd

Ffynhonnell y llun, Hawlfraint y Goron: CBHC

Disgrifiad o'r llun, Melin slabiau Ynys y Pandy gyda chwarel Gorsedda yn y cefndir

Ffynhonnell y llun, Hawlfraint y Goron: CBHC

Disgrifiad o'r llun, Barics y Dre' Newydd yn chwarel Dinorwig

Ffynhonnell y llun, Hawfraint y Goron: CBHC

Disgrifiad o'r llun, Chwareli Ffestiniog

Ffynhonnell y llun, Hawlfraint y Goron: CBHC

Disgrifiad o'r llun, Chwareli Dyffryn Nantlle

Ffynhonnell y llun, Hawlfraint y Goron: CBHC

Disgrifiad o'r llun, Cafodd y llechi eu cludo i farchnadoedd ar hyd a lled y byd o Gei Caernarfon

Cafodd y lluniau yma eu cyhoeddi gan Cymru Fyw yn wreiddiol mewn erthygl ym mis Mai 2015.