Mynediad llawn i bobl anabl mewn traean o orsafoedd yn unig

Disgrifiad o'r fideo, Cat Dafydd o Landysul yn rhannu ei phrofiad o ddefnyddio rheilffyrdd Cymru fel person anabl
  • Awdur, Dafydd Morgan
  • Swydd, Newyddion Â鶹ԼÅÄ Cymru

Dim ond traean o orsafoedd rheilffordd yng Nghymru sydd â mynediad anabl llawn, ac mae angen gwelliannau yn ôl dwy elusen.

Daw'r alwad wrth i ffigyrau ddangos nad oes modd i ddefnyddwyr cadair olwyn gyrraedd y platfform mewn bron i 25% o orsafoedd Cymru.

Mae Anabledd Cymru a Scope yn galw ar i Drafnidiaeth Cymru wneud mwy i sicrhau bod pobl anabl yn gallu teithio'n annibynnol, ac yn pwyso am newid ar frys.

Dywedodd Trafnidiaeth Cymru y bydd "99% o deithiau ar lwybrau allweddol y cymoedd yn addas i bawb mewn cadair olwyn o fewn pum mlynedd" yn dilyn buddsoddiad o £15m.

'Anodd gw'bod os allai ddod oddi ar y trên'

Mae Cat Dafydd o Landysul yn defnyddio cadair olwyn ac yn disgrifio'i hun fel menyw annibynnol.

Dywedodd wrth y Post Cyntaf bod prinder gorsafoedd trên sydd â mynediad heb risiau yn golygu bod teithio ar y system rheilffyrdd yng Nghymru yn llawn heriau.

"I fynd ar drên rhywle ma'n rhaid i chi bwco assistance gynta', cael gw'bod sut ma' mynd o'r maes parcio i'r platfform, os oes angen ramps - fel bod staff yr orsaf yn gw'bod beth i'w wneud.

"Ma'n anodd gw'bod yn sicr os allai ddod oddi ar y trên rhywle.

"Ambell waith ma'n rhaid i fi fynd heibio'r orsaf ar y trên, a dal tacsi yn yr orsaf nesa' i ddod 'nôl. Mae e jyst yn anodd teithio ar drenau."

Ychwanegodd: "Ma' pedwar o blant 'da ni, a ma' nhw'n dwli mynd ar y trên, bydden i'n reli joio mynd i lefydd eraill ar y trên, ond mae e jyst mor anodd i deithio a threfnu lle ni'n mynd achos 'dwi yn y gadair."

Disgrifiad o'r llun, Dim ond grisiau sy'n arwain at orsaf Grangetown, sy'n rwystr i lawer o bobl anabl

Pan gymrodd Trafnidiaeth Cymru reolaeth o ryddfraint rheilffordd Cymru a'r Gororau dros y penwythnos, dim ond 84 (34%) o orsafoedd y rhwydwaith oedd â mynediad llawn heb risiau.

Roedd 105 (42.5%) â mynediad rhannol, ond doedd dim mynediad i'r platfform o gwbl i ddefnyddwyr cadair olwyn mewn 58 (23.5%) o orsafoedd.

Problem fawr

Mae Prif Weithredwr Anabledd Cymru wedi dweud ei fod yn "broblem fawr sydd angen ei datrys yng Nghymru".

Dywedodd Rhian Davies mai'r gobaith yw bod y rhyddfraint newydd yn "gyfle mewn cenhedlaeth i ddatrys hyn nawr ac i'r dyfodol".

"Fel Anabledd Cymru, fe fydden ni ddim am weld dim llai 'na 100% [mynediad anabl llawn].

"Dyw pobl anabl ddim yn ddinasyddion eilradd. Mae gyda ni'r hawl i fynd i unrhyw le ry'n ni eisiau, ac i dderbyn y gefnogaeth angenrheidiol lle bo angen, i gael gwybodaeth gywir."

Yr un yw'r neges gan Scope, sy'n dweud bod pobl anabl yn teimlo fel eu bod yn cael eu hanghofio dro ar ôl tro, a bod angen newid hynny ar frys.

Disgrifiad o'r llun, Mae Prif Weithredwr Anabledd Cymru, Rhian Davies wedi dweud ei fod yn "broblem fawr sydd angen ei datrys yng Nghymru"

Ychwanegodd Cyfarwyddwr Masnach a Chwsmeriaid Trafnidiaeth Cymru, Colin Lea: "Rydym wedi ymrwymo i adeiladu rhwydwaith reilffordd sydd ar gael i bawb yng Nghymru a'r gororau.

"Fel rhan o'r ymrwymiad, bydd Trafnidiaeth Cymru yn buddsoddi £15m er mwyn sicrhau bod 99% o deithiau ar lwybrau allweddol y cymoedd yn addas i bawb mewn cadair olwyn o fewn pum mlynedd.

"Bydd mynediad i bobl mewn cadair olwyn hefyd yn cael ei gynnwys mewn 23 gorsaf ychwanegol gyda gwariant o £3.6m i wella mynediad i orsafoedd.

"Er gwaethaf y gwaith sylweddol sydd eisoes wedi'i gwblhau i well mynediad i orsafoedd, mae dal llawer o waith i'w wneud i drawsnewid gorsafoedd, rhai ohonynt gafod eu hadeiladu yn ystod Oes Fictoria."