Â鶹ԼÅÄ

Bebb: Ymestyn cyfnod trosglwyddo Brexit yn 'broblem'

  • Cyhoeddwyd
Guto Bebb

Mae cynnig Theresa May i ymestyn y cyfnod trosglwyddo ar ôl i'r Deyrnas Unedig adael yr Undeb Ewropeaidd yn "achosi problemau", yn ôl cyn-weinidog Ceidwadol.

Daw rhybudd AS Aberconwy Guto Bebb wrth iddo ddweud bod proses Brexit yn "achosi niwed go iawn i hygrededd y llywodraeth".

Mae'r Prif Weinidog wedi codi'r posibilrwydd o oedi gadael yr UE am "ychydig fisoedd" tan ddiwedd 2021, i sicrhau nad oes ffin galed yng Ngogledd Iwerddon. Ond dydy hi ddim yn y credu y bydd angen defnyddio'r syniad yn y pen draw.

Dywedodd AS Ceidwadol arall o Gymru "nad oedd yn hapus" gyda'r cynnig, ond bod angen rhagor o fanylion.

Bydd y DU yn gadael yr UE ym mis Mawrth, a'r cynllun presennol ydi i'r cyfnod trosglwyddo ddod i ben ar ddiwedd 2020.

Disgrifiad,

Gall Brexit arwain at "drafferthion sylweddol" yn ôl Mr Bebb

'Niwed i hygrededd'

Dywedodd Mr Bebb, cyn-weinidog amddiffyn a gweinidog yn Swyddfa Cymru: "Mae hyn yn achosi problemau achos mae'r cyfnod trosglwyddo yn 21 mis lle y byddwn yn dilyn rheolau'r UE ond fydd gennym ni ddim dweud yn y rheolau hynny. Dydi hynny, ddim yn fy marn i, ddim i'w wneud a chymryd rheolaeth yn ôl."

Mae'r holl broses o adael yr undeb yn "achosi niwed go iawn i hygrededd y llywodraeth", meddai Mr Bebb.

Dywedodd AS Ceidwadol Brycheiniog a Maesyfed, Chris Davies, nad oedd yn "hapus gyda'r cyfnod trosglwyddo yn parhau".

Ychwanegodd: "Mae angen i ni gael gwybod yn union beth mae hyn yn ei olygu. Ydi hyn am fod am gwpwl o fisoedd ac yna ein bod yn yr un safle mewn cwpwl o fisoedd, neu mewn blwyddyn?

"Mae angen i ni gael dyddiad a gwybod yn union faint mae hyn yn mynd i gostio."