Â鶹ԼÅÄ

Seren ifanc yn canu clodydd Eisteddfod Llangollen

  • Cyhoeddwyd
Elan Catrin Parry

Dywed cantores ifanc o Wrecsam fydd yn perfformio yn yr Albert Hall yn Llundain fod perfformio yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen wedi bod yn allweddol yn ei llwyddiant.

Wrth berfformio yn yr ŵyl daeth Elan Catrin Parry i sylw cwmni Decca, ac mae hi bellach wedi arwyddo cytundeb gyda'r label recordio.

"Mae gymaint wedi newid yn ystod y ddwy flynedd diwethaf - o ni byth y disgwyl byddai lle ydw i heddiw.

"Ar ôl cystadlu yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen cefais fy sbotio gan Decca, fe wnaethant fy ngwahodd i Gaerdydd i gael clyweliad a ges i gyfle i recordio tri thrac demo yn y stiwdio ac yna ges i gynnig cytundeb efo nhw."

'Hynod ddiolchgar'

Yn yr haf fe wnaeth Elan, sy'n ddisgybl yn Ysgol Morgan Llwyd yn Wrecsam, ryddhau ei halbwm cyntaf.

"Mae mor swreal, dwi dal methu coelio fo'n iawn, i ddweud mod gan i albwm mae just yn anghygoel."

Ffynhonnell y llun, DeWinter
Disgrifiad o’r llun,

Daeth Elan Catrin Parry i sylw cwmni recordiau ar ôl perfformio yn Llangollen

Ymhlith y cantorion eraill sydd ar gytundeb gyda Decca mae'r gantores mezzo-soprano Katherine Jenkins o Gastell-nedd.

"Mae hi wedi bod mor llwyddiannus yn ei gyrfa, os gallai ddilyn yn ei llwybr hi a bod mor llwyddiannus, er bod ni'n canu gwahanol fath o ganeuon, byddai hynny'n arbennig."

Daw ei chyfle nos Sadwrn yn yr Albert Hall fel gwestai arbennig corau meibion Gŵyl Cymry Llundain.

"Heb Eisteddfod Llangollen mae'n annhebyg iawn y byddai yn y sefyllfa ffantastig yma, ac rwy'n teimlo'n hynod ddiolchgar."