Cyfnod Trenau Arriva Cymru yn dod i ben wedi 15 mlynedd

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Bydd Trenau Arriva Cymru'n rhoi'r gorau i redeg gwasanaeth rheilffyrdd Cymru a'r Gororau ddydd Sadwrn

Bydd Trenau Arriva Cymru yn rhedeg am y tro olaf ddydd Sadwrn.

Ym mis Mai cyhoeddodd Llywodraeth Cymru mai cwmni KeolisAmey enillodd y cytundeb i redeg y gwasanaethau trenau yng Nghymru am y 15 mlynedd nesaf.

Byddan nhw'n rhedeg trenau o dan enw Trafnidiaeth Cymru o ddydd Sul.

Mae Trenau Arriva Cymru wedi bod yn weithredol yma ers 2003, ond dydy taith y cwmni yng Nghymru heb fod yn un llyfn.

'Profiad gwael yn gyffredinol'

Mae digwyddiad wedi'i drefnu yng ngorsaf Caerdydd Canolog nos Sadwrn i ddathlu diwedd cyfnod Arriva, gyda dros 600 wedi dweud eu bod nhw'n mynd i'r "parti".

Dywedodd y trefnydd Glenn Page, sy'n 27 ac o Gaerdydd, fod y digwyddiad "ddim i wneud â beio unrhyw un".

"Mae hyn yn ddathliad ar ddiwedd profiad sydd wedi bod yn un gwael yn gyffredinol," meddai.

I osgoi neges Twitter
Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen Twitter a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys

Diwedd neges Twitter

Ym mis Hydref y llynedd fe benderfynodd Arriva beidio bwrw ymlaen â'r broses dendro i redeg y gwasanaethau yng Nghymru "am resymau masnachol".

Nôl yn 2014, daeth y cwmni dan y lach am godi gwrychyn Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones.

Ymddiheurodd Trenau Arriva Cymru i Mr Jones ar ôl iddo gysylltu â'r cwmni yn cwyno am gyhoeddiadau uniaith Saesneg mewn gorsaf yng Nghaerdydd.

Ac mae'n debyg y bydd diwrnod ola'r cwmni yn un anodd hefyd, gyda Storm Callum yn achosi trafferthion i'r rheilffyrdd yng Nghymru.