Â鶹ԼÅÄ

Cyswllt fideo i gefnogi addysg mewn ysgolion gwledig?

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Mae athrawon a disgyblion Ysgol Bro Pedr wedi disgrifio'r cynllun fel un "hynod o gyffrous"

Mae'r defnydd o gysylltiad fideo rhwng ysgolion wedi cael ei lansio fel rhan o gynllun i gefnogi addysg mewn ardaloedd gwledig yng Nghymru.

Cafodd y syniad ei fabwysiadu gyntaf mewn rhannau o'r Alban.

Nod prosiect E-sgol yw cysylltu disgyblion ac ysgolion mewn mannau anghysbell fel bod ganddyn nhw ddewis ehangach o bynciau.

Mae cynllun gweithredu addysg cefn gwlad Llywodraeth Cymru hefyd yn cynnwys rhagdybiaeth yn erbyn cau ysgolion gwledig.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Addysg Kirsty Williams y gallai technoleg gynnig atebion i rai problemau mewn ysgolion gwledig.

Mae'r prosiect yn seiliedig ar gynllun a gafodd ei gyflwyno gan Lywodraeth yr Alban yn yr Ynysoedd Heledd Allanol (Outer Hebrides).

Y cyntaf i roi cynnig arni yng Nghymru oedd disgyblion Ysgol Bro Pedr yn Llanbedr Pont Steffan a fu'n cysylltu gyda phlant o Sgoil Lionacleit yn Benbecula ar gyswllt fideo.

Mae'r gwersi ar gyfer disgyblion chweched dosbarth gan athrawon ar safleoedd eraill er mwyn ehangu'r dewis o bynciau sydd ar gael.

Disgrifiad o’r llun,

Gwers yn Llanbed ar gyswllt fideo

Dywedodd athro mathemateg Llanbed, Dylan Jones: "Mae'n wahanol iawn yn sicr... y mwyaf y byddwn yn ei ddefnyddio yna fe ddown ni i arfer gydag e.

"Mae'n rhoi cyfle i'r disgyblion i wneud pynciau na fydden nhw'n gallu gwneud fel arall efallai. Dyw ysgolion - efallai oherwydd arian - yn methu rhedeg rhai cyrsiau."

Dywedodd Kirsty Williams y byddai'n sicrhau fod gan blant fynediad at "y profiad dysgu gorau" hyd yn oed yn ardaloedd mwyaf gwledig y DU.

"Os fedrwn ni sicrhau bod disgyblion ac ysgolion yng nghefn gwlad Cymru yn cael y gefnogaeth angenrheidiol i lwyddo, yna fe allan ni sicrhau bod ein cymunedau ac economïau gwledig yn mynd o nerth i nerth," meddai.

Ychwanegodd Ysgrifennydd Addysg Yr Alban, John Sweeney ei fod yn falch dros ben o weld y cynllun arloesol E-Sgoil am addysgu digidol yn cael ei fabwysiadu gan Lywodraeth Cymru.

Mae'r cynllun gweithredu hefyd yn cynnwys:

  • Grantiau i ysgolion bach a gwledig er mwyn annog dyfeisgarwch a chodi safonau;

  • Cryfhau'r cod ad-drefnu ysgolion mewn perthynas â rhagdybiaeth yn erbyn cau ysgolion gwledig drwy newid y canllawiau i awdurdodau lleol fydd yn dod i rym ym mis Tachwedd;

  • Cyllid ychwanegol i wella cysylltedd mewn ysgolion cefn gwlad.

Wrth sôn am y posibilrwydd o gau ysgolion, ychwanegodd Ms Williams: "Ry'n ni'n gyrru neges i awdurdodau lleol fod rhaid iddyn nhw ymchwilio'n drylwyr... ymgynghori gyda chymunedau ac edrych ar bob cyfle sydd ar gael i gadw ysgol ar agor.

"Ni ddylai cau ysgol fod y dewis cyntaf, ond yn hytrach y dewis olaf un."