Â鶹ԼÅÄ

Sêr y byd cerddorol sy'n aelodau o Glwb Clogynnau Portmeirion

  • Cyhoeddwyd
Paul Weller a'r band yn eu clogynauFfynhonnell y llun, Meurig Jones
Disgrifiad o’r llun,

Paul Weller a'i fand oedd y cyntaf i wisgo'r clogynnau yng nghanolfan O2 Apollo Manceinion

Beth sy'n denu cerddorion fel Paul Weller, Jarvis Cocker, Noel Gallagher a Tim Burgess i fod yn aelodau o glwb arbennig wedi ei sefydlu mewn pentref gwyliau yng ngogledd Cymru?

Yr ateb yw clogynnau amryliw o bentref Portmeirion sydd wedi eu seilio ar y gyfres deledu eiconig The Prisoner.

Sefydlwyd Clwb y Clogynnau yn 2013 gan Meurig Jones, rheolwr digwyddiadau Portmerion, wedi i Paul Weller, un o ffans pennaf y gyfres, ofyn am un o'r clogynnau lliwgar sy'n ymddangos yn un o benodau'r gyfres.

Roedd Meurig yn trafod y clwb ar Raglen Rhys Mwyn ar Radio Cymru ynghyd ag un o'r aelodau diweddaraf, Glen Matlock o'r Sex Pistols, oedd yn perfformio ym Mhorthmadog fis Medi 2018.

Esboniodd Meurig sut cychwynnodd yr holl beth: "Roedd gitarydd Paul Weller, Steve Cradock, wedi bod yma ac mi ges i alwad ganddo'n deud bod Paul Weller yn gofyn os fyswn i'n gallu cael clogynnau y Prisoner iddyn nhw," meddai.

Yn anffodus doedd dim ar ôl yn siop The Prisoner a dim bwriad gwneud mwy. Ond gofynnodd Meurig i ddynes sy'n gweithio ym Mhortmeirion wneud rhai iddo.

"Felly ddaru hi wneud 10 ac es i â phedwar i Fanceinon i Paul Weller a ddaru nhw eu gwisgo nhw ar y llwyfan y noson honno - o'n i ddim yn disgwyl hynny," meddai.

Ffynhonnell y llun, Meurig Jones
Disgrifiad o’r llun,

Glen Matlock o'r Sex Pistols yn ei glogyn newydd ar ôl perfformio ym Mhorthmadog fis Medi

Ar ôl dod adre cafodd Meurig alwad gan Paul Weller yn dweud ei fod wrth ei fodd efo'r clogynnau ond mai dim ond pedwar roddodd o, ac roedd chwech yn y band.

Felly aeth Meurig â dau arall iddyn nhw a dechreuodd feddwl bod 'na ddyfodol i'r syniad.

"Dyma fi'n meddwl y gallen ni gael ychydig o hwyl efo hyn felly es i ymlaen ac ar y funud mae gynna i 29 aelod yn y 'clwb'," meddai.

Cerddorion yw'r rhan fwyaf o'r aelodau mae Meurig yn eu gwahodd, pobl mae'n gwybod sydd â diddordeb yn The Prisoner.

Ffynhonnell y llun, Meurig Jones
Disgrifiad o’r llun,

Rydyn ni'n meddwl fod y wyneb yma'n golygu fod Jarvis Cocker o Pulp (Rhif 18) yn hapus gyda'i glogyn

Pennod eiconig y 'gêm o wyddbwyll'

Roedd The Prisoner yn gyfres eiconig yn y 1960au a'r 1970au a gafodd ei ffilmio ym Mhortmeirion. Yn y gyfres roedd Patrick McGoohan yn actio dyn oedd wedi cael ei gipio i bentref swreal lle roedd gan bawb rif yn lle enw a phobl ddirgel yn eu rheoli.

Daw'r clogynnau o bennod lle mae pobl y pentref yn gorfod bod yn ddarnau mewn gêm o wyddbwyll.

"Mae'r clogynnau yn reit eiconig yn y gyfres," esbonia Meurig.

"Mae [cymeriad Patrick McGoohan] yn cael gwadd i chwarae yn y gêm ac mae un o'i dîm yn gwneud symudiad 'dio ddim i fod i'w wneud wedyn mae'n cael ei lusgo i ffwrdd.

"Mae'n gofyn pam, ac mae'r frenhines yn dweud 'wel ti fod i chwarae'r gêm a pheidio â bod yn rebel'.

"Wrth gwrs holl bwynt y gyfres oedd ei fod o yn rebel. Felly mae'n ddarn reit eiconig o'r gyfres."

Ffynhonnell y llun, ITV/REX/Shutterstock
Disgrifiad o’r llun,

Ffilmio golygfa o'r bennod Checkmate yn 'The Prisoner' lle mae gêm o "wyddbwyll dynol" yn cael ei chwarae mewn clogynnau ar y lawnt ym Mhortmeirion

Beth yw'r atyniad i gerddorion?

Mae pyncs a rocyrs o ryw oed arbennig yn uniaethu efo ethos y gyfres meddai Meurig.

"I bobl fy oedran i, yn eu pumdegau, roedd The Prisoner yn rhywbeth ddaru ni dyfu fyny efo fo," meddai.

"Ro'n i efo Echo & The Bunnymen neithwr yn Warrington ac maen nhw'n rhan o'r clwb achos roeddan nhw'n hoff iawn o'r gyfres.

"Roedd 'na rywbeth reit anarchaidd yn y gyfres. Roedd o'n rebel oedd yn cwffio yn erbyn y system felly mae'r rhan fwyaf o bobl sydd yn y clwb yn bobl oedd yn tyfu fyny efo cerddoriaeth pync a New Wave ac yn teimlo i raddau eu bod nhw'n cwffio yn erbyn y system hefyd.

"Mae 'na deimlad bod y ddau yn mynd efo'i gilydd yn dda."

Ffynhonnell y llun, Meurig Jones
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ian McCulloch o Echo & The Bunnymen yn ffan ac yn aelod

Cwffio yn erbyn y system

Un o hoff straeon Meurig ydy gan y cerddor a'r gitarydd Steve Harley a soniodd fel roedd o a Marc Bolan o T Rex yn arfer mynd i nôl takeaway Tseineaidd a mynd adre i wylio The Prisoner efo'i gilydd.

"Roedd be' roedd Patrick McGoohan yn ei wneud ar anterth y Rhyfel Oer a'r syniad oedd 'byddwch yn ofalus efo pwy rydech chi'n siarad', peidiwch â trystio neb a chwffiwch yn erbyn y system a big brother.

"Ac wrth gwrs roedd y pyncs yma i gyd yn deall hynny'n iawn, a dyna reswm arall pam mae o 'di bod yn boblogaidd."

Fel cymeriadau'r gyfres, mae pob aelod newydd yn cael rhif a bathodyn arbennig a thystysgrif, yn ogystal â'u clogynnau.

Wrth ddod yn aelod yn ddiweddar roedd Glen Matlock eisiau bod yn Rhif 1 meddai Meurig ond roedd rhaid iddo setlo am Rif 25. Paul Weller yw rhif 1, am mai fo oedd y cyntaf i ofyn.

Ymysg yr aelodau eraill mae Martyn Ware o Heaven 17 (rhif 17, wrth gwrs), Mike a Jules Peters, Suggs o Madness, Captain Sensible a Pete McKee, arlunydd sydd wedi gwneud gwaith arluno The Who a Paul Weller.

Ffynhonnell y llun, Meurig Jones

Mae dilyniant The Prisoner a Gŵyl Rhif 6 ym Mhortmeirion, sydd wedi ei enwi ar ôl rhif cymeriad Patrick McGoohan yn y gyfres, yn golygu bod cysylltiad cryf rhwng y pentref a'r byd cerddorol, gyda llawer o gerddorion o gyfnod arbennig yn ymweld â'r pentref.

Yn ôl Meurig mae Bernard Sumner o New Order wedi paentio ei gegin yr un lliw ag un o dyrrau Portmeirion ar ôl gofyn am sampl o'r lliw wedi un ymweliad.

Pwy fydd yr aelodau nesaf felly?

"Dwi newydd glywed bod Clem Burke o Blondie yn anferth o ffan o'r gyfres ac mae o'n dod drosodd i Brydain ym mis Chwefror so dwi am gael o yn y clwb hefyd. 'Dwi ddim yn gwybod am Debbie Harry eto..."

Ond gyda dim ond 32 o ddarnau mewn gêm o wyddbwyll, ydy llefydd yn y clwb yn rhedeg allan?

"Wel, os ydi Paul McCartney'n gofyn, dwi ddim yn mynd i wrthod. Fydd yn rhaid imi greu super subs dwi'n meddwl!" meddai Meurig.

Ffynhonnell y llun, Meurig Jones
Disgrifiad o’r llun,

Andy Scott (The Sweet), Tony Barbados, Mike Peters, Jules Peters a Patrick Bourke ar fwrdd gwyddbwyll Portmeirion

Efallai o ddiddordeb: