Buddsoddiad o £5.5m i wersylloedd Llangrannog a Glan-llyn

Ffynhonnell y llun, HLN Architects

Disgrifiad o'r llun, Darlun pensaer o sut all Llangrannog edrych yn y dyfodol

Bydd yr Urdd yn bwrw 'mlaen gyda chynllun datblygu £5.5m yng ngwersylloedd Llangrannog a Glan-llyn ar ôl i'r llywodraeth gytuno i ariannu hanner y gost.

Roedd y mudiad ieuenctid wedi cytuno i ariannu hanner y gost, a bellach mae'r llywodraeth yn fodlon cyfrannu £2.75m hefyd tuag at y cynllun.

Mae yna fwriad i wario £1.2m ar wella'r cyfleusterau yng Nghanolfan Hyfforddi Gweithgareddau Dŵr Glan-llyn, ac £800,000 ar gyfer adeiladu Canolfan Addysgol newydd yng Nglan-llyn Isaf.

Bydd cost cynllun datblygu 'Calon y Gwersyll' yn Llangrannog yn costio £3.5m.

Roedd yr Urdd wedi dweud y byddai'r cynlluniau'n creu 18 o swyddi llawn amser a 12 o brentisiaethau.

Ffynhonnell y llun, Purcell

Disgrifiad o'r llun, Darlun y penseiri o sut allai'r neuadd ymgynnull edrych ar ôl y trawsnewidiad yn Llangrannog

Yn ôl yr Urdd, mae 56% o holl ysgolion Cymru yn treulio cyfnodau preswyl yng ngwersylloedd yr Urdd.

O'r rheiny roedd 26% o'r rhai fu'n ymweld dros y 3 mlynedd diwethaf yn dod o'r 20% cymuned fwyaf difreintiedig yng Nghymru.

Mae mwy o ysgolion ail-iaith yn mynychu'r gwersylloedd nag ysgolion Cymraeg, sy'n "dangos gwerth y gwersylloedd fel pwynt mynediad i'r Gymraeg", meddai'r mudiad.

Ffynhonnell y llun, Urdd Gobaith Cymru

Disgrifiad o'r llun, Bydd £1.2m yn cael ei wario i wella'r cyfleusterau yng Nghanolfan Hyfforddi Gweithgareddau Dŵr Glan-llyn ar Lyn Tegid

Mwy o arian i'r Urdd?

Gan gadarnhau buddsoddiad y llywodraeth, dywedodd Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, bod yr Urdd yn "chwarae rôl hanfodol mewn darparu cyfleoedd dysgu gydol y flwyddyn i bobl ifanc yng Nghymru".

Dywedodd Siân Lewis, Prif Weithredwr yr Urdd, y byddai'r buddsoddiad yn caniatáu'r Urdd i "wella cyfleusterau ac adnoddau, greu swyddi newydd yng nghefn gwlad Cymru a diweddaru isadeiledd ar gyfer cenedlaethau o blant a phobl ifanc Cymru i'r dyfodol".

Gyda 47,000 o breswylwyr yn ymweld yn flynyddol a throsiant o £5.2m, mae gwersylloedd Llangrannog a Glan-llyn yn cyflogi 160 o staff.

Dywedodd yr Urdd eu bod nhw'n rhagweld cynnydd yn y niferoedd o ymwelwyr yn dilyn y cynlluniau newydd - fydd yn gyfwerth ag £1.3m o drosiant ychwanegol i'r Urdd.