Â鶹ԼÅÄ

Faletau yn debygol o fethu gemau rhyngwladol yr hydref

  • Cyhoeddwyd
Taulupe FaletauFfynhonnell y llun, Simon King - CameraSport
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Faletau ddioddef anaf i'w fraich tra'n chwarae i'w glwb Caerfaddon yn erbyn Caerwysg, nos Wener.

Mae disgwyl i wythwr Cymru, Taulupe Faletau fethu gemau rhyngwladol yr Hydref ar ôl iddo dorri ei fraich.

Fe wnaeth Faletau ddioddef yr anaf tra'n chwarae i'w glwb Caerfaddon yn erbyn Caerwysg, nos Wener.

Fe fydd Cymru yn wynebu'r Alban, Awstralia, Tonga a De Affrica ym mis Tachwedd.

Does dim cadarnhad eto am ba hyd fydd Faletau allan o ganlyniad i'r anaf.