Toriadau termau real i bob cyngor sir yng Nghymru

Disgrifiad o'r llun, Mae casglu sbwriel yn un o wasanaethau craidd awdurdodau lleol Cymru

Bydd pob un o awdurdodau lleol Cymru yn derbyn llai o arian gan Lywodraeth Cymru unwaith eto'r flwyddyn nesa o ystyried chwyddiant.

Prynhawn dydd Mawrth fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru faint o arian y bydd awdurdodau lleol yn ei dderbyn o'r gyllideb yn y flwyddyn ariannol nesaf.

Bydd toriadau i chwe awdurdod - Ynys Môn, Conwy, Sir y Fflint, Powys, Sir Fynwy a Gwynedd - yn fwy llym na'r gweddill.

Dywedodd y Gweinidog Llywodraeth Leol, Alun Davies, mai "dyma'r setliad gorau posib yn wyneb cynni pellach".

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi galw'r setliad yn "eithriadol o siomedig" gan ddweud hefyd y bydd "goblygiadau difrifol ar gyfer gwasanaethau lleol".

Er y bydd setliad chwe chyngor yn ne Cymru yn fwy na'r llynedd, mae'r cynnydd llawer yn is na graddfa chwyddiant.

Mae'r arian y mae cynghorau'n ei dderbyn gan Lywodraeth Cynulliad yn ariannu y mwyafrif o'u gwasanaethau, gan gynnwys gofal, casglu sbwriel a chanolfannau hamdden.

Fe gyhoeddodd Alun Davies AC y bydd gostyngiad o 0.3% ar gyfartaledd, gyda chyfanswm yr arian sydd wedi cael ei glustnodi yn £4.21bn.

Bydd gostyngiad o 1% yng nghyllidebau chwe awdurdod, tra bod Caerdydd yn derbyn cynnydd o 0.4% yn eu cyllideb, a chodiad o 0.3% i awdurdodau Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf.

Mae cynghorau Casnewydd a Chastell Nedd Post Talbot yn mynd i dderbyn 0.2% yn ychwanegol, a fydd yna ddim newid i setliad Abertawe.

Dywedodd Mr Davies: "Rydyn ni wedi gweithio'n galed, ar draws y llywodraeth, i gynnig y dyma'r setliad gorau posib yn wyneb cynni pellach."

"O ganlyniad mae'r toriad o £43m ers y gyllideb y llynedd wedi cael ei lleihau i lai na £13m, sydd mewn gwirionedd yn ostyngiad o 0.3% o'i gymharu ochr yn ochr â'r flwyddyn hon", meddai.

Ond mae'r corff sy'n cynrychioli awdurdodau lleol yn feirniadol iawn o'r cyhoeddiad, gan ddweud eu bod nhw wedi gobeithio am godiad o 1%.

Dywedodd y Cynghorydd Anthony Hunt, llefarydd Cymdeithas Llywodraeth Lleol dros Gyllid ac Adnoddau: "Siom i ni yw derbyn y setliad dros dro heddiw."

"Rwy'n gwybod fod cydweithwyr yn Llywodraeth Cymru wedi gorfod gwneud penderfyniadau anodd o ganlyniad i gynni.

"Ond rwy'n ofni mai'r penderfyniadau anghywir sydd wedi cael eu gwneud yn y gyllideb hon."

Poeni am ysgolion a gofal

Ac mae arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin, y Cynghorydd Emlyn Dole (Sir Gaerfyrddin), Arweinydd Grŵp, yn pryderu beth fyddai effaith y toriadau ar "wasanaethau craidd".

"Gyda'r cyllid sydd ar gael i ni, allwn ni ddim amddiffyn gwasanaethau craidd - ac yn drist iawn, mae hynny'n golygu toriadau i ysgolion ac i ofal cymdeithasol.

"Rydyn ni'n pryderu y bydd swyddi athrawon yn diflannu ac y bydd gwasanaethau rheng flaen yn cael eu torri.

"Efallai bod y gyllideb yma yn cyflawni nod Llywodraeth Cymru o roi mwy o arian i ysbytai, ond mae'n colli'r pwynt yn llwyr mai buddsoddi mewn gwasanaethau ataliol yw'r ffordd ymlaen."