Â鶹ԼÅÄ

Ffarwelio â Sgorio wedi 30 mlynedd

  • Cyhoeddwyd
emyrFfynhonnell y llun, Rondo

Ar un adeg, nos Lun ar S4C oedd yr unig le i gefnogwyr pêl-droed o Gymru a thu hwnt weld sêr byd-enwog y bêl gron.

Roedd Sgorio yn darlledu gemau clybiau pêl-droed mwyaf Ewrop. Bellach mae'r rhaglen yn canolbwyntio ar gemau o Uwchgynghrair Cymru.

Rhywun oedd yno o'r diwrnod cyntaf, ond sydd newydd ymddeol, yw Emyr Davies. Cafodd Cymru Fyw air gydag ef i drafod ei atgofion o'i ddyddiau ar y cyfandir.

O'n i'n byw yng Nghaerdydd pan ges i neges ar y peiriant ateb yn holi os bydda gen i ddiddordeb mewn sylwebu ac ymchwilio ar gyfer rhaglen, ac fe wnes i fachu ar y cyfle.

Robin Evans oedd cynhyrchydd Ffilmiau'r Nant ar y pryd (fe gyfunodd Nant ac Opus i greu'r cwmni Rondo rydyn ni'n 'nabod heddiw). Roedd Robin mewn sgwrs gyda Deryk Williams, pennaeth rhaglenni S4C, a nhw gafodd y syniad gan fod Mark Hughes ac Ian Rush yn chwarae gyda Barcelona a Juventus; 'Be' am i ni greu rhaglen chwaraeon Ewropeaidd, gan gynnwys pêl-droed y cyfandir?'

Yn anffodus, yr haf hwnnw ar ôl sicrhau'r hawliau i ddarlledu'r gemau yma fe ddaeth Hughes a Rush yn ôl i chwarae yn Lloegr, felly roedd y ddau (Robin a Deryk) ychydig yn betrusgar a fyddai unrhyw ddiddordeb mewn dangos pêl-droed cyfandirol a pha mor llwyddiannus fyddai'r rhaglen.

Ges i gytundeb chwe mis i ddod i Gaernarfon, a dwi dal yma 30 mlynedd yn ddiweddarach!

Y rhaglen gyntaf

Y pumed o Fedi, 1988, oedd y rhaglen gyntaf, a'r gêm gyntaf oedd Barcelona v Espanyol, gem ddarbi Catalonia. Digwydd bod, hon oedd gêm gyntaf Johan Cruyff fel rheolwr Barcelona hefyd.

Roedd 'na 120,000 o bobl yn y Camp Nou y noson honno gyda Barcelona'n ennill 2-0 ac roedd hi'n ras i gael y tapiau nôl i Gaernarfon ar gyfer darlledu am 7.30pm nos Lun.

Roedd 'na amrywiaeth o chwaraeon ar y rhaglen ar y pryd - ralïo, gemau'r Gwyddel, hoci iâ, rygbi tri-ar-ddeg - pob math. Ond wedi rhyw bum mlynedd fe wnaethon ni ganolbwyntio ar bêl-droed cyfandirol: La Liga yn Sbaen, Serie A yr Eidal, a'r Bundesliga yn yr Almaen.

Ffynhonnell y llun, Rondo
Disgrifiad o’r llun,

Emyr yn un o stadiymau enwoca'r byd, y Camp Nou

Yn y dyddie cynnar gafon ni dipyn o sylw i ddweud y gwir, achos mae'n rhaid cofio mai ond pedair sianel oedd yn y dyddie 'na. Roeddwn i wedi symud lan o Gaerdydd, lle'r oedd 'na lot o bobl wedi troi eu aerials i wynebu'r Mendips er mwyn peidio cael S4C.

Ond yna o'n i'n clywed straeon bod pobl o dros y ffin yn troi'r aerials i wynebu Cymru er mwyn cael gweld Sgorio. Roedd Ian Rush yn eu plith - dwi'n cofio pennawd ym mhapur The Sun yn dweud ei fod yn gwylio Sgorio'n rheolaidd.

Roedd 'na griw o fyfyrwyr, lle'r oedd un yn gorfod mynd i'r atig i godi'r aerial drwy ryw ffenest velux er mwyn cael y signal ddigon cryf. A phan oedden ni'n dangos rygbi'r tri-ar-ddeg roedd 'na fenyw yn ardal Widnes yn cael llond bol o'i gŵr yn gwylio'r rhaglen yn y Gymraeg, fe aeth hi ati i ddysgu Cymraeg!

Cwrdd â'r sêr

Roedd cael bod yno pan oedd pencampwriaeth yn cael ei hennill yn uchafbwynt, ac roedd 'na ganiatâd i'r wasg lifo ar y cae a gwneud cyfweliadau yno.

Er tegwch mi fuodd yna lot o chwaraewyr yn deg iawn gyda ni, achos falle bod rhai ohonyn nhw ddim yn ymwybodol o Gymru a'r Gymraeg. I ryw raddau roedd S4C a Chymru'n cael ei roi ar y map efo Sgorio.

Fues i'n ffodus i gyfweld llawer o'r mawrion. Dwi'n cofio cyfweld yr Iseldirwyr Marco van Basten, Frank Rijkaard a Ruud Gullit gyda'i gilydd wedi iddyn nhw ennill Serie A gydag AC Milan.

Roedd Gullit yn hynod o ffeind gyda'i amser, a dwi'n cofio wedi i mi ei gyfweld rhyw dro, cerdded o stafell y wasg ar hyd y stadiwm, allan i'r awyr agored at ei gar yn y maes parcio - bydda hyn ddim yn digwydd dyddiau 'ma. Roedd digon o amser gyda fe i bawb a phopeth, a dwi'n cofio gwneud un cyfweliad dros dri chwarter awr gyda'r dyn camera druan lawr ar un ben-glin.

Ffynhonnell y llun, Rondo
Disgrifiad o’r llun,

Cyfweld ag un o'r ffigyrau pêl-droed enwocaf o'r 80au a 90au, Ruud Gullit

Os dwi'n cofio'n iawn fe sgoriodd Raúl yn ei gêm gyntaf dros Real Madrid. Wrth gwrs roedd e'n ddiarth i hyd yn oed gohebwyr Sbaen. Ar ddiwedd y gêm, dwi'n siŵr d'wedodd y dyn camera i fi "dwi'n siŵr mai hwnna oedd y crwt ddoth mlaen"... ac mi wnaethon ni ei fachu a gwneud cyfweliad. Roedd e bron iawn yn hap a damwain.

Roedd John Toshack yn ffrind da iawn i Sgorio dros y blynyddoedd, roedd e'n ffantastig gyda ni. Pan ddechreuodd Sgorio, yr unig gysylltiad Cymreig oedd bod John Toshack yn rheolwr gyda Real Sociedad, ac yn dilyn ei lwyddiannau yno cafodd ei benodi yn rheolwr ar Real Madrid.

Er bod Real Madrid wedi ennill y bencampwriaeth tair neu bedair blynedd yn olynol, roedd Tosh yn teimlo bod rhaid iddo wneud rhywbeth yn well 'na'r tymhorau blaenorol. Be' lwyddon nhw ei wneud oedd sgorio 107 o goliau mewn tymor, a oedd yn record ar y pryd, gyda Hugo Sánchez yn sgorio 38.

Un tro, fe gysyllton ni i wneud cyfweliad gyda fe yn stadiwm Real Madrid, y Bernabéu. Roedden ni'n defnyddio gwŷr camera a sain tramor, ac doedden nhw ddim yn siŵr o'n cynlluniau ni i gyfweld â John Toshack, gan eu bod nhw wedi clywed ei fod o'n gallu bod yn lletchwith.

Ond fel oedden ni'n gosod lan tu fas y Stadiwm dyma ni'n clywed sŵn corn car yn canu. Doeddwn i ddim yn 'nabod neb ym Madrid felly nes i ei anwybyddu. Dyma'r corn eto, ac daeth ffenest y car du 'ma i lawr a phen John Toshack yn ymddangos "Emyr! I thought we said 2 o'clock! I'll be back by then!" Roedd y criw oedd efo ni yn gegrwth.

Dylanwad Sgorio

Dwi'n falch iawn o beth wnaeth Sgorio. Dwi'n cofio clywed straeon am blant yn chwarae ar yr iard ac yn dynwared sylwebaethau ac yn honni bod yn Donadoni, Gullit, van Basten neu Schillaci... ac yn gwneud hynny yn yr iaith Gymraeg, yn hytrach 'na dynwared rhywun fel John Motson. Wrth gwrs mae hwnna yn rhywbeth mae rhywun yn ymfalchïo yn fawr iawn ynddo fe.

Ffynhonnell y llun, Rondo
Disgrifiad o’r llun,

Bachgen ifanc oedd Raúl González Blanco pan siaradodd Emyr gydag ef gyntaf, cyn iddo ddod yn seren byd-enwog

Ymddeol

Rydw i wedi lled-ymddeol, a beth yn union mae hynny'n yn ei olygu, does gen i ddim syniad. Rydw i wedi bod yn hynod o lwcus a breintiedig o fod yn rhan o Sgorio ers y diwrnod cyntaf un, ond hefyd roedd e'n ddi-dor. Felly mae rhywun yn cyrraedd rhyw bwynt yn eu gyrfa lle maen nhw'n meddwl 'fedra i'm cario ymlaen i wneud hyn, mae rhaid fi arafu'.

Mae'n amser i bendroni am ychydig, cymryd rhyw saib, ac wedyn penderfynu ar yr hyn dwi eisiau ei wneud a beth yw'r cyfleon.

Ges i fy magu yn Abertawe ac yn cefnogi'r Elyrch ers dwi'n bedair mlwydd oed. Erbyn hyn dwi'n cyfri John Toshack fel ffrind, lle ar un adeg fe falle oedd fy arwr pennaf i yn y byd chwaraeon.

Felly ie, falle ga i fwy o gyfle nawr i fynd i weld Abertawe yn chwarae a throi'r cloc yn ôl.

Ffynhonnell y llun, Rondo
Disgrifiad o’r llun,

Criw cwmni cynhyrchu Rondo yn ffarwelio ag Emyr